Cwmni CYNNAL

Uned Dechnoleg, Maesincla, Caernarfon LL55 1RS

Ffôn: 01286  679 167 • Ffacs: 01286 677 053

Gwybodaeth am CYNNAL

Sefydlwyd CYNNAL yn ôl yn 1996 gan Gyngor Gwynedd a Chyngor Sir Ynys Môn i ddarparu gwasanaethau cefnogol i ysgolion y ddwy sir. Cofrestrwyd CYNNAL fel cwmni dan warant, a mae rheolaeth y Cwmni yn nwylo Bwrdd o Reolwyr sy'n cynrychioli'r ddau awdurdod a'u hysgolion.

Prif fwriad CYNNAL yw darparu gwasanaethau cefnogol i ysgolion – gwasanaeth cefnogi cwricwlwm, trwy dîm o Ymgynghorwyr ac Athrawon Ymgynghorol pynciol, a gwasanaeth cefnogi technoleg gwybodaeth, trwy dîm o dechnegwyr cyfrifiadurol a rhwydweithiol. Darperir y gwasanaethau hyn trwy gyfres o Gytundebau Lefel Gwasanaeth, ond dyma amlinelliad o waith yr unedau.

Uned Cefnogi Cwricwlwm

  • Darparu hyfforddiant a chefnogaeth ddwyieithog i Awdurdodau Addysg Lleol Gwynedd ac Ynys Môn a'u hysgolion, er mwyn hyrwyddo datblygiadau cwricwlaidd a rheolaethol.
  • Cefnogi ysgolion trwy lunio a chyflwyno rhaglen Hyfforddiant Mewn Swydd gynhwysfawr, gyda'r bwriad o wireddu blaenoriaethau lleol a chenedlaethol.
  • Hyrwyddo gweithrediad Polisi Iaith yr Awdurdodau.
  • Cefnogi cynlluniau penodol mewn ysgolion cynradd ac uwchradd, ac achredu safonau ysgol (mewn perthynas â phrofion a thasgau Cenedlaethol).
  • Hyrwyddo a chefnogi Cymunedau Dysgu Proffesiynol a rhwydweithiau penodol o fewn yr ardal er mwyn codi safonau a rhannu arfer dda.
  • Sicrhau defnydd mwy effeithiol ac effeithlon o adnoddau AAA.

Uned Cefnogi Technoleg Gwybodaeth

  • Gwerthu ac arsefydlu offer cyfrifiadurol a thechnegol.
  • Trwsio, cynnal a chadw offer cyfrifiadurol a thechnegol.
  • Arsefydlu a chefnogi rhwydweithiau cyfrifiadurol mewn ysgolion.
  • Arsefydlu byrddau gwyn rhyngweithiol a thaflunyddion.
  • Gwerthu meddalwedd systemau rheolaethol a meddalwedd addysgol.
  • Cefnogi'r defnydd o feddalwedd rheolaethol ysgolion, sef system rheoli gwybodaeth SIMS.
  • Hyrwyddo'r defnydd o'r rhyngrwyd mewn ysgolion, a datblygu adnoddau addysgol rhyngweithiol.
  • Darparu hyfforddiant a gweithdai ar y defnydd o DGCh i staff gweinyddol, staff technegol a staff dysgu ysgolion.
  • Cynghori ysgolion ar ddatblygiad systemau cyfrifiadurol a systemau gwybodaeth yn eu sefydliadau.
  • Cynnal profion ar offer trydanol symudol, i sicrhau eu bod yn bodloni gofynion deddfwriaethau Iechyd a Diogelwch.