|
Pentref ar y briffordd rhwng Caernarfon, ein tref agosaf, a Llandygai, sy'n arwain at Llandudno a Chaer, yw Bethel. Mae 4 kilometr o Gaernarfon a 7 kilometr o Fangor.
Sefydlwyd y pentref mewn ardal amaethyddol a bu twf i'r pentref yn dilyn datblygiad chwareli Llanberis gan ei bod wedi ei lleoli wrth ochr y rheilffordd oedd yn cario llechi o Dinorwig i'w hallfori o'r Felinheli.
Mae'r pentref yn rhan o un o ardaloedd harddaf Cymru ac fe'i lleolir 10 kilomedr o droed yr Wyddfa.
Rhenir Bethel yn dri, sef Saron, Penrhos a Bethel ei hun. Yn y pentref fe geir llythyrdy a siop mewn un, siop gwerthu popeth, garej gwerthu ceir, cigydd, tri chapel a thafarn.
Yn naturiol bu newidiadau mawr yn natblygiad a bywyd y pentref yn enwedig yn sgil diddymu'r diwydiant chwareli.
|
|