Yn dilyn ymdrech gre' gan y pentrefwyr i rwystro trwydded yfed i hen gartref St. Teilo ym Methel yn yr wythdegau cynnar, fe agorwyd tafarn 'Y Bedol' ar --------------------wedi ei adeiladu ar y tir rhwng y garej a'r ysgol. Ond nid hon oedd y dafarn cyntaf ym Methel!
Yn ôl yn hanes caniatawyd trwydded i agor tafarn i Marged, gwraig Ffowc Williams, yn 1832. Agorwyd y dafarn yn ei bwthyn, Blaen-rhos, a Marged byddai'n bragu ac edrych ar ôl y cwrw, heb yfed yr un diferyn, tra byddai 'Wil Ffowl', cigydd yn ôl ei alwedigaeth, yn trin cig yn y 'sgubor. Pan gofynnwyd i Marged pam yr agorodd y dafarn a hithau a'i theulu yn gapelwyr ffyddlon ei hateb oedd "er mwyn cael tipyn o fywoliaeth".
Yn dilyn ffrwgwd rhwng ei meibion a llanciau meddw'r pentref oedd am fwy i yfed un noson, penderfynodd Marged rhoi ei thrwydded i gadw'r t tafarn i fyny am byth yn 1837. Cynigodd y Parchedig David Griffiths y sylwad canlynol o'r pulpud - "ei fod yn dymuno na châi byth weld yr un t tafarn arall yn cyfodi yn yr ardal". Cafodd ei ddymuniad am dros ganrif a hanner!
Tyfodd y tri brawd i fod yn golofnau cedyrn iawn yng nghapel Bethel ac yn uchel iawn eu parch yn yr holl gymuned. Mae'r bwthyn yn parhau i sefyll hyd heddiw fel ty preifat

Following an attempt by the villagers of Bethel to oppose a drinking license for the old home of St. Teilo in the early eighties, 'Y Bedol' ('The Horseshoe') was opened in ----------- following its erection on the land between the garage and the school. But this was not the first pub in the village!
As the story goes, a license to open a pub was granted to Marged, wife of Ffowc Williams, in 1832. The pub was opened in her cottage, Blaen-rhos, where Marged brewed and looked after the beer, without drinking a drop, whilst 'Wil Ffowc', a butcher by trade, treated the meat in the barn. When Marged was asked why she had opened the pub coming from a faithful family of chapelgoers, her reply was "in order to earn a living".
Following a fight late one night between her sons and some local drunken youths who wanted more to drink, Marged decided to relinquish her license to keep a public house forever in 1837. The Reverend David Griffiths offered these comments from the pulpit - "he hoped he would never see another pub opening in the area". He had his wish for over a century and a half!
The three brothers grew to be pillars of the local chapel and well respected members of the community. The cottage still stands today as a private dwelling.

Penisarwaun

Llanrug

Bethel

Cwm y Glo

Llanberis