|
Enw ein hardal ni yw Bro Cernyw. Fe grewyd yr enw ym 1969 gyda adeiladu'r ysgol newydd yn Llangernyw. Mae'r ardal yn cynnwys pentrefi Llangernyw, Pandy Tudur a Gwytherin. Mae tair afon yn llifo drwy'r addal sef Collen (Langernyw), Derfyn (Pandy Tudur), a Cledwen (Gwytherin). Maent yn ymuno a'i gilydd yn Llangernyw. Dyna a welwch ar logo'r ysgol ac yn ystyr englyn yr ysgol.
Plant tair afon sy'n cronni - i bydew'r Gwybodaeth sydd ynddi; O gynnull dysg ohoni, Gwelwn werth ein hysgol ni.
Dafydd Emrys Williams
|
|