|
|
|
|
|
|
|
|
Harri'r Cwm
Harri'r Cwm, Arwr camau, O fore 'i oes, cawn fawrhau, Yn ifanc craff wrth fainc crydd, I frwd ymroi'n efrydydd, Hawdd gweld edmygedd gwyd, I athrylith yr aelwyd. Man canfod gwybodaeth, am fyw ddoe, Yma fe ddaeth, Gwych amgueddfa gu A'i rhinwedd mewn cyfrannu A hyrwyddo er addysg, Am y ddoe mae yma ddysg.
Adeg o dlodi ydoedd, Ymroi waith am oriau oedd; A'r hen fyd er prin ei foeth, A'i afael ar wir gyfoeth. Hen foddion eu crefydda, Yn goeth ddal cymdogaeth dda.
Rhan o gywydd Pennant Evans i ddathlu ail agor amgueddfa Syr Henry Jones.
|
|
|
|
|
|