|
Ardal wledig amaethyddol yw Pandy Tudur, mae wedi ei leoli ar lan afon Derfyn. Dros y blynyddoedd mae'r pentref wedi cael llawer o enwau gwahanol, gan gynnwys, Blaenau Llangernyw. Llanddewi a Pandy Budr. Cafwyd yr enw olaf oherwydd reodd ynt yn golchi a llifo gwlan mewn adeilad o'r enw Pandy. Roedd dwr yr afon yn fwdlyd ac felly roedd y gwlan yn fudr. Ar gyrion y pentref mae'r hen ysgol. Cafodd ei hadeiladu tua can mlynedd yn ôl ac erbyn heddiw mae wedi cau. Heb fod ymhell o'r pentref mae'r Hen Ficerdy sydd yn awr yn gartref i'r henoed. Drws nesaf mae hen Eglwys Llanddewi, sydd erbyn hyn wedi ei throi yn dy. Gyferbyn a'r Swyddfa Bost yng nghanol y pentref mae rhaeadr Afon Derfyn a'r Capel.
|
|