|
Mae Gwytherin wedi ennill gwobrau am y pentref taclusaf yng Nghlwyd am sawl blwyddyn. Afon Cledwen sydd yn llifo drwy Wytherin. Ar lan yr afon mae carreg fawr o`r enw Carreg y Cawr. Y chwedl am y garreg hon yw bod cawr yn cerdded ar lan yr afon un diwrnod ac yn teimlo rhywbeth yn ei esgid, edrychodd yn ei esgid a gweld carreg fechan yno. Felly tynnodd y garreg allan o`i esgid a`i gollwng ar lan yr afon. Yng nghanol y pentref mae Eglwys Gwenffrewi. Yn ôl y chwedl, torrodd y Tywysog Caradog pen Gwenffrewi i ffwrdd am wrthod ei briodi. Rhoddodd Beuno ei phen yn ôl a daeth i Wytherin i helpu'r Santes Eleri i edrych ar ôl y tlodion. Tu ôl i`r eglwys mae yna gerrig beddau rhufeinig gydag arysgrif lladin arnynt.
|
|