|
|
|
|
|
|
|
Moel Pentre Wern
Mae mynydd Moel Pentre Wern uwchben y fferm Pentre Wern. Mae yn eithaf uchel. Dyma'r mynydd a welwn o fuarth yr ysgol. Eithin sydd yn tyfu ar y mynydd hwn. Cewch olygfa wych o'r copa. Tua cant o flynyddoedd yn ôl roedd dynion yn dilyn sbort creulon iawn ar ben y mynydd, sef ymladd ceiliogod. Mae olion talwrn ymladd ceiliogod yna hyd heddiw.
|
|
|
|
|
|
|