Sefydlwyd y clwb peldroed cyntaf yn Neiniolen yn y flwyddyn 1986 gyda Mr.John Thomas fel rheolwr ar y tîm. Un anfantais fawr i'r tim oedd y tirwedd oherwydd nid oedd llain o dir gwastad yn unman ar gyfyl y pentref a bu rhaid i'r tîm chwarae ar gae Ysgol Brynrefail, Llanrug yn y cyfnod cynnar hwn. Ar ôl dau dymor fel hyn penderfynwyd bod angen gwell trefn a chodwyd pwyllgor gweithgar iawn a oedd yn gefnogol iawn i'r clwb. Roedd y bechgyn yn mwynhau eu gemau ond doedd fawr o lwyddaint yn y gynghair yn ystod y cyfnod cynnar hwn.
Fodd bynnag ar ddechrau'r 90au gyda chymorth cefnogwyr brwd aeth y tîm o nerth i nerth. Enillwyd y gwpan gyntaf ar gae Dyffryn Nantlle yn 1991 yn erbyn tîm o Fangor. Y sgôr oedd un gôl i ddim. Ond eto roedd angen cael cae gartref yn Neiniolen ac ar ôl ymdrechu'n galed iawn cytunodd Cyngor Arfon i adeiladu cae yn Neiniolen, gyda John Farmer fel y'i gelwid gan y chwarewyr, yn Rheolwr arnynt.
Daeth uchafbwynt i lwyddiant y tîm yn nhymor 1993-1994 pan enillodd y tîm bedair cwpan a'r anrhydedd fwyaf y flwyddyn.
Y Bwthyn
Agorodd Y Bwthyn yn 1994. Mae yna un cwt i'r tîm cartref ac un i'r tîm i ffwrdd. Alyn Wyn ydi rheolwr y lle. Mae yna le newid i'r tîm cartref ac un i'r tîm ffwrdd, mae yna le i'r dyfarnwr a lle toiledau, a lle i gael paned o de a bwyd. Pan mae yna gemau, mae dyn o'r enw Caradog yn gwerthu fferins, diod a chreision. Mae yna gêm bob dydd Sadwrn os mae'r tywydd yn dda. John Ffarm yw rheolwr y tîm cyntaf, Gibo ydi rheolwr yr ail dîm . Mae tîm cyntaf Deiniolen yn gyfartal gyda thîm Glan Conwy gyda 31 point ond tydi'r ail dîm ddim mor lwcus â'r tîm cyntaf. Fy nhîm gorau yw tîm John, sef y tîm cyntaf.
Cae'r Bwthyn - Cartref Clwb Peldroed Deiniolen
Cae'r Bwthyn - The Home of Deiniolen Football Club