|
Ardal wledig, amaethyddol yw ein bro gydag ychydig dai, eglwys a thafarn ym Maerdy, ychydig dai a chapel yn Ninmael, ychydig dai a garej yn Nhy Nant - i gyd yn ymyl yr A5, rhwng Cerrig y drudion yn sir Conwy, a Chorwen yn sir Ddinbych.
Mae'r enw Dinmael yn hen iawn. Ystyr 'Din' yw lle mae nifer o bobol yn byw, ac enw personol tywysog neu bennaeth yw 'Mael'.
|
|