|
Mae bob un o blant yr ysgol yn aelodau o Urdd Gobaith Cymru. Byddwn yn cystadlu yn yr Urdd bob blwyddyn ar gystadlaethau llwyfan, barddoniaeth, gwyddoniaeth, technoleg a gwaith llaw. Mae'r ysgol wedi bod yn llwyddiannus iawn ar hyd y blynyddoedd. Rydym yn cael hwyl yn ymuno i ganu gyda aelodau'r Urdd Sir Conwy yn y Jambori ac yn ymuno ar deithiau. Mae rhai o blant yr ysgol yn mynd i wersylloedd yr Urdd i Llangrannog, ger Aberystwyth a Glan Llyn, ger y Bala. Rydym yn cystadlu yng nghystadleuaeth 'Tlws Pat Neil' yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru hefyd. Eleni, daethom yn fuddigol yn rownd gyntaf y Cwis Llyfrau Cymraeg ac yn ail yn y rownd Sirol.
Rydym yn diddannu aelodau Clwb y Werin a thrigolion Cysgod y Gaer bob blwyddyn drwy ganu caneuon a chwarae offerynnau cerdd. Byddwn yn cael cyngerdd Nadolig yn yr ysgol bob blwyddyn pan fyddwn yn cyflwyno drama neu bantomeim.
|
|