|
Ysgol gynradd i blant o dair i un ar ddeg oed yw ysgol Dinmael. Saif ein hysgol ni ychydig oddi ar y ffordd A5 y tu allan i bentref Dinmael. Adeilad o oes Fictoria yw ond mae ty'r ysgol lle'r oedd y Prifathro'n byw ers talwm wedi ei addasu yn swyddfa, storfa, llyfrgell, cegin ac ystafell ginio. Pan agorodd yr ysgol am y tro cyntaf, 64 o blant oedd yma, erbyn hyn dim ond 21 o blant sydd yma yn cynnwys y plant meithrin. Mae'r rhan fwyaf o blant yn dod i'r ysgol mewn tacsi. Dau o blant yn unig sy'n cerdded i'r ysgol. Er mai ysgol fechan wledig yw hi mae'n ysgol brysur a byrlymus iawn. Ar ol gadael yr ysgol ym mlwyddyn 6 bydd y plant yn mynd i Ysgol y Berwyn, Bala neu Ysgol Brynhyfryd, Rhuthun
|
|