At about 1180 A.D Owain Brongyntun was the Lord of Dinmael, and his hall where Maesmor is today, in Maerdy near Dinmael. The meaning of Maerdy is the house of the mayor or the estate supervisor. Lord Harlech who established the television company HTV is one of his ancestors. The district's barons had the right to hold court cases and hanging ceremonies. An urn was found in Maesmor which can now be found at the National Museum of Wales in Cardiff.
Tua 1180 Oed Crist roedd Owain Brongyntyn yn Arglwydd Dinmael a'i blas yn lle mae Maesmor heddiw, ym Maerdy ger Dinmael. Ystyr Maerdy yw Ty y maer neu oruchwiliwr y stad. Disgynyddion iddo yw teulu'r Arglwydd Harlech y gwr a sefydlodd cwmni teledu HTV. Roedd gan farwniaid yr ardal hawl i gynnal llysoedd a chrogi drwg weithredwyr. Darganfyddwyd wrn ym Maesmor ac mae'n un o drysorau Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd. Ger Plas Maesmor mae Eglwys y Santes Catherine. Cafodd ei chynllunio gan Willian Cerr a roedd yn byw ym Maesmor yn1878- dair mlynedd ar ol adeiladu ysgol Dinmael. Ef oedd perchennog y tir a adeiladwyd y Eglwys arno. Yn mynwent yr eglwys mae bedd y gwr enwog Ellis Wyn o Wyrfai. Ef oedd y ficer. Cyfieithodd lawer o emynau a charolau o'r Saseneg i'r Gymraeg. Un yw:
"Yn nhawel wlad Jwdea dlos
o dan y sêr diri ."
The Church was built out of stones and slate from Ffestiniog quarry were used to make its roof. There are stained glass windows to remember William and Elizabeth Kerr at the Saint Katherine's Church. In 1893 the first chapel organ was bought. In 1933 the Chapel had electricity for the first time.
Adeiladwyd yr Eglwys o gerrig, a llechi chwarel Ffestiniog a ddefnyddiwyd yn do iddi. Mae ffenestr liw er cof am Willam ac Elizabeth Kerr yn eglwys Santes Katherine. Yn 1893 prynwyd organ gyntaf i'r Capel. Yn 1933 cafwyd trydan yn y Capel am y tro cyntaf.