|
Dyma lun o fynedfa Amgueddfa Lechi Cymru sydd wedi ei lleoli yng nghanol mawredd Chwarel Dinorwig. Mae'r chwarel ei hun yn dyddio o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, a cafodd yr amgueddfa ei diweddaru gyda chymorth arian gan y Loteri.Yn yr amgueddfa gellir gweld y gweithdai, y ffowndri haearn a phres, yr efail, y sied drenau, a'r peirianwaith dwr a fyddai'n creu'r offer ar gyfer cael y llechi.
|
|