Pentref bach yn nwyrain
Ynys Môn yw Llanddona, tua tair milltir a hanner o dref Beaumaris. Mae'r enw yn
deillio o hanes Sant Dona, fu'n byw
tua dechrau'r wythfed ganrif. Adeiladwyd eglwys yma er côf am Sant Dona.
Mae golygfeydd hardd iawn yma - yn enwedig
wrth edrych allan dros y mor. Erbyn heddiw mae llawer o'r hen ffermdai a bythynod
wedi dod yn dai haf.
Mae yma ysgol, eglwys,
capel, neuadd bentref, swyddfa bost a thafarn. Tan yn ddiweddar iawn, roedd yma siop. Ar
un adeg, roedd tair siop ym mhentref Llanddona
Mae mastiau radio a heddlu yn sefyll yn
uchel uwchben y pentref ac maent i'w gweld yn glir o bell. |