| Ar Ynys Mon mae pentref bychan
or enw Llangoed, tua tair milltir ir Gogledd Ddwyrain o dref Beaumaris. Dwy
siop sydd yn Llangoed, un go fychan sef Y Post ac un go fawr sef Spar. Er bod y post yn
fychan mae llawer o bobl yn mynd yno i brynu stampiau a losin. Oherwydd bod Spar yn fwy o
siop mae llawer o fwydydd yn cael eu gwerthu yno a mwy o gwsmeriaid yn mynd yno er mai
gwerthu yr un pethau ar Post y mae. Un or llefydd mwyaf prysur yn Llangoed ywr Rhyd sef y ty
tafarn. Mae llawer o hwyl a sbri yn mynd ymlaen yno. Yn yr hwyr bydd pobl yn chwarae
Bingo, cardiau, dartiau a pwl. |
Yn sicr
maer neuadd bentref yn hen iawn ac mae llawer o bethau yn cymryd lle yno fel y Cylch
Meithrin, Sioe Flodau Llangoed ac yn yr hwyr maer ffermwyr ifanc yn cyfarfod ac yn
siarad am ffermio. Er mai dim ond un eglwys sydd yn y pentref, mae hin brydferth
iawn. Mae dau gapel yn y pentref. Yn bendant mae gerddi Heulfre werth iw gweld, mae
cloc anferth a thy mawr ir henoed yng nghanol y gerddi, mae angen mwy o lefydd fel
hyn yn y pentref. Ysgol wych yw
Ysgol Llangoed. Maen ddeuddeg oed ac yn gofalu am 102 o blant. Mae yno un prifathro,
tair athrawes a dwy weinyddes. |