Fe adeiladwyd y Felin ym 1759. Yn yr hen amser roedd y Felin yn perthyn i stad Garthmeilio. Gwerthwyd y stad yn 1923 ac fe brynodd y tenant sef Mr Huw Hughes hi.Roedd y felin yn rhan bwysig o'r ardal. Yr hen felinydd oedd Humphrey Humphreys. Daethant yno ym 1881. Wedi Humphrey Humphreys farw ym 1909 daeth Robert Ifans
Penant i fyw yno. Wedyn daeth Ned Llofft Briws. Ar ôl i Ned Llofft Briws farw fe fuodd llawer yno wedyn. Ym 1939 fe brynwyd y felin gan Arthur Jones. Erbyn hyn roedd wedi gwneud i ffwrdd hefo'r olwyn ddwr a'r tyrbain oedd yn troi'r felin o 1923 ymlaen. Roedd yna bennill yn mynd fel hyn:


Tolla ac na thwylla,
Mola Duw a mala'n dda.

The mill was built in 1759. It belonged to the Garthmeilio Estate. It was sold in 1923 to a new tenant, Mr Hugh Hughes. The Mill was an important part of the village. The old miller was Humphrey Humphreys. He had a wife and 4 children. They came there in 1881. After Humphrey Humphreys died in 1909 Robert Evans Penant came to live there. Then Ned Lloft Briws came there. After Ned Llofft Briws died lots of people came there. In 1939 Arthur Jones bought the mill. From 1939 the water mill used turbine instead of water to work the mill. From 1923 the mill produced electricity for Llangwm.

Pentrefoelas

Ysbyty Ifan

Dinmael

Llangwm

Brocernyw