|
HANESYDDOL.
EGLWYS SANT MIHANGEL: Safle yn hen ardal Y Rug/cysegru i Sant Mihangel tua'r lleg ganrif/adnewyddu'r eglwys ddechrau'r ganrif hon.
PORTH Y FYNWENT: llun + cofnodi'r wybodaeth ar y mur.
Y FYNWENT: rhai beddau o ddiddordeb e.e., englynion ar gist goffa Dafydd Ddu Eryri/replica o Groes Fictoria ar fedd Syr Hugh Rowlands/bedd Ffowc Robert Williams (Ffowc bach y Cantor - athro cerddoriaeth - peripatetig cynnar!)/ Bedd Dr. Humphrey Edwards a hwyliodd i Dde'r Iwerydd a sefydlu gardd lysiau ar Ynysoedd y Malvinas er mwyn arbed morwyr rhag sgyrfi/bedd â cherfiadau rhyfedd arno yn coffau gwr a fu farw'n gant oed.
CLOCH YR EGLWYS A THALCEN Y GLOCH: Traddodiad fod y wal yn cael ei gwyngalchu.
CYSYLLTIADAU ERAILL A'R EGLWYS: Tabled goffa yn y Festri am John Jones, Brynfedwen a sefydlodd elusen i dlodion y plwyf carreg yn y fynwent yn nodi rhodd o dir i ymestyn y fynwent.
ADEILADAU ERAILL:
Y Sefydliad Coffa - prynwyd i'r pentref yn dilyn y Rhyfel Byd Cyntaf (cyn hynny, ty a siop)
Y Co-op - yr unig un o'i fath yng ngogledd Cymru bellach/
Swyddfa'r Post - traddodiad iddo gael ei adeiladu mor uchel er mwyn cuddio'r capel!
Cwt Band - adeilad ail-law a godwyd yn y 1950'au i roi cartref sefydlog i fand pres hynaf gogledd Cymru (yn bodoli ers o leiaf 1834).
|
|