Afon Cegin


Y mae Afon Cegin yn codi yn Ffynnon Gegin Arthur ac yn ymlwybro i gyfeiriad Bangor am 9 milltir ac yn arllwys i'r mor yn Aber Cegin.

Ar un amser cyn oes y rhew ddiwethaf, dros 10,000 o flynyddoedd yn ol, yr oedd yr afon yn fach ac yn llifo i Afon Seiont tua 1 filltir i ffwrdd.  Daeth rhiw lifiad i lawr o fwlch Llanberis a chau llwybr naturiol yr afon i'r Seiont, gyda chreigiau a mwd.  Neu dyna mae'r daearegwyr yn honni.  Yr oedd rhaid i ddwr yr afon fynd i rywle, felly aeth i gyfeiriad Bangor.

Ffaith diddorol arall am Afon Cegin yw yma y boddwyd yr athro/bardd Dafydd Ddu Eryri.  Cerdded adref o Fangor oedd o ar dywydd stormus iawn pan sythiodd i mewn i'r afon nid nepell o'r lle a elwir Braich Reffri.  Y dyddiad oedd Mawrth 30ain 1822. Claddwyd y bardd ym mynwent Llanrug.  Dywed ambell i un ei fod yn feddw pan syrthiodd i ddwr oer yr afon.  Rydw i'n falch o ddweud mai nid Dafydd Du sydd ar y radio oedd yr uchod, mae Dafydd Du yn fyw a bron yn iach (y mae ganddo annwyd)

Y mae y ddiweddar R.J.Thomas, arbenigwr ar enwau anfonydd, yn egluro enw'r afon o'r ffynnon fel hyn:- "Yn y ffynnon y mae dwr coch a blas haearn arno yn byrlymu i fyny'n gryf.  Tybid mai'r ysgum neu'r rhwd haearn a nofiai ar wyneb y dwrydoedd braster y cig a godai o'r gegin i fyny i'r ffynnon, ac mai'r nwy a ollyngid oedd y mwg o dan y gegin".