Tudalen Gartref 2000 Home Page

wpe6.jpg (11629 bytes)

lo8.gif (6178 bytes)

____________________________________________________________

Sprite 6.gif (1693 bytes)
Sprite 7.gif (1688 bytes)
Sprite 8.gif (1858 bytes)
Sprite 9.gif (1582 bytes)
Sprite 11.gif (1848 bytes)

llyth13.gif (4534 bytes)

Llys mwyaf tywysogion Gwynedd oedd Aberffraw ym Môn, a'r prif fardd yno yn y drydedd ganrif a'r ddeg oedd Einion ap Gwalchmai. Credir i Einion gael ei fagu yn Nhrewalchmai. Heblaw ei fod yn fardd a cherddor medrus, roedd Einion hefyd yn un o filwyr dewraf Owain Glyndwr.

Ysgrifennodd Einion gerddi am wraig brydferth Ednyfed Fychan a fu farw'n ifanc. Roedd ganddynt ferch o'r enw Angharad a roedd son am ei phrydferthwch trwy'r wlad.

Dywed yr hanes fod boneddigion gorau Gwynedd yn awyddus o'i phriodi ond penderfynodd ei thad osod tasg arbennig o flaen y sawl a fynnai briodi ei ferch. Dewisiodd un o gampau'r hen Gymry , sef hwb, cam a naid. Gwyddai Angharad y medrai Einion ennill y gamp yn hawdd, a dyma oedd ei dymuniad oherwydd roedd mewn cariad ag ef. Dewisiodd y tad le i gynnal y campau , sef Maes Abernodwydd, gerllaw Plas Gwyn, Pentraeth.

Daeth llawer o foneddigion i gynnig cyflawni'r gamp. Llwyddodd dau neu dri ohonynt i neidio deg a'r hugain neu ddeugain troedfedd ac aeth y cystadlu ymlaen trwy'r bore a'r prynhawn. Yr olaf i neidio oedd Einion. Hwb! Cam! Naid! Hanner can troedfedd !

Roedd wedi curo'r cystadleuwyr eraill yn rhwydd. Rhedodd Angharad ato a rhoi ei breichiau am ei wddf. Dyna naid enwog Abernodwydd a roedd son amdani ym mhob man. Yn fuan iawn wedyn priodwyd Einion ac Angharad a buont fyw yn hapus iawn.

Aberffraw in Anglesey was the largest court of the princes of Gwynedd, and the chief bard there in the thirteenth century was Einion ap Gwalchmai. It is believed that Einion was brought up at Trewalchmai. Apart from being a skilled poet and musician, Einion was also one of Owain Glyndwr’s bravest soldiers.

Einion wrote poems about the beautiful wife of Ednyfed Fychan who died young. They had a daughter called Angharad and her beauty was spoken of throughout the country. The story goes that the best nobles of Gwynedd were anxious to marry her but her father decided to set a specific task before the person who wanted to marry his daughter. He chose one of the feats of the old Welsh, being hop, skip and jump.

Angharad knew that Einion could easily win the feat, and this was her wish because she was in love with him. The father chose a place to hold the feats, being Maes Abernodwydd, near Plas Gwyn, Pentraeth.

Many nobles came to try and achieve the feat. Two or three of them succeeded in jumping thirty or forty feet and the competing went on throughout the morning and afternoon.

The last to jump was Einion. Hop! Skip! Jump! Fifty feet! He had beaten the other competitors easily. Angharad ran to him and placed her arms around his neck. That was the famous Abernodwydd jump and there was mention of it everywhere. Very soon afterwards Einion and Angharad were married and they lived very happily.

Yn ôl/Back

Mail9375.gif (4196 bytes)
pennaeth@pentraeth.anglesey.sch.uk
www.mon51.u-net.com

 
Pentraeth WB01158_.GIF (255 bytes) Porthaethwy WB00969_.GIF (261 bytes) Llanfairpwll WB01066_.GIF (242 bytes) Llanddona WB01042_.GIF (250 bytes) Llandegfan WB00955_.GIF (255 bytes) Llangoed WB01073_.GIF (256 bytes) Brynsiencyn WB01062_.GIF (249 bytes) Beaumaris WB00882_.GIF (263 bytes) Parc y Bont