
|
Rydym yn
ffodus iawn yn Mhentraeth oherwydd mae Gors Bodeilio ar gyffiniaur pentref - yn
gorwedd mewn dyffryn bas rhwng Pentraeth a Llangefni. Dyma un o bedair cors unigryw ym
Môn, oherwydd mae ynddi galch, nodwedd sydd wedi prinhau a dirywio ar raddfa helaeth ym
Mhrydain. Gan fod y dwr yn llawn mwynau
cyfoethog, mae llawer iawn o blanhigion prin wedi cael llonydd i dyfu yno. Dyma rai
ohonynt: y llemfrwynen (Cladium mariscus), y gorsfrwynen ddu (Schoenus nigricans), y
frwynen glymog (Juncus subodulosus), y gorsen gyffredin (Phragmites communis), helygen
Mair (Myrica gale) a glaswellt y gweunydd (Molinia caerulea). Yn ogystal, ceir sawl math o
degeirian. Yn eu plith ceir tegeirian y gors culddail (Dactylorchis traunsteineri)
ar tegeirian pryfyn (Ophrys insectifera), y ddaun anghyffredin iawn. |