Adeiladwyd Plas
Gwyn gan William Jones 1688-1755. Mae'n dy o dri llawr, wedi ei adeiladu o frics coch a
tho llechi. Gorffenwyd y ty yn 1754. Mab Plas Gwyn oedd John Jones a chafodd ei eni yn
1650. Bu farw yn 1727. Daeth yn Ddeion Eglwys Gadeirol Bangor. Agorodd ysgol ym Mhentraeth
yn 1719, ysgol i ddysgu 10 o blant i ddarllen Cymraeg, Saesneg, ysgrifennu a gwneud
symiau. Gadawodd £100 yn ei ewyllys i redeg yr ysgol. Wyddom ni ddim llawer am yr ysgol
ond hi oedd yr ysgol gyntaf ym Mhentraeth ac nid oedd y plant yn gorfod talu yr un geiniog
am gael eu dysgu.
Enw'r ysgolfeistr yn 1787 oedd Robert Owen. Yr unig beth a wyddom ni amdano ydy ei fod
wedi ymosod ar rhywun o'r enw John Williams. Digwyddodd hyn ar Fedi 8ed. Curwyd John
Williams druan yn ddrwg. Bu rhaid i Robert Owen, yr ysgolfeistr fynd o flaen y llys ym
Miwmares ond ni wyddom beth ddigwyddodd iddo. Yn 1756 priododd Paul Panton aeres Plas Gwyn
, sef Jane , merch William Jones. Dywedwyd i Paul Panton gymeryd ei ddyletswyddau fel
sgweiar Plas Gwyn o ddifrif . Dangosai ddiddordeb mewn llenyddiaeth. Cymraeg er fod ei
afael ar y Gymraeg yn wan. Cafodd gasgliad o lawysgrifau ar ol Ieuan Fardd wedi ei
farwolaeth yn 1787. Teulu Plas Gwyn oedd perchen y rhan fwyaf o'r tai o gwmpas Pentraeth
a'r rhan fwyaf o'r ffermydd.Yn 1840 teulu Vivien
oedd perchnogion Plas Gwyn. Yr Arglwydd Vivien a werthodd y tir lle adeiladwyd yr ysgol
arno yn 1863. Heddiw Mrs Margaret Eleanor Lowrie yw perchenog Plas Gwyn. Ei gwr cyntaf
oedd Claude Panton Vivian . Ailbriododd ar ol i Vivian gael ei ladd yn yr Ail Ryfel Byd yn
1944 yn 24 mlwydd oed. |
Plas Gwyn was built by
William Jones, 1688-1755. It is a house with three floors, built of red brick and a slate
roof. The house was completed in 1754. John Jones was the son of Plas Gwyn and he was born
in 1650. He died in 1727. He became Dean of Bangor Cathedral. He opened a school at
Pentraeth in 1719, a school to teach 10 children to read Welsh, English, write and do
sums.
He left £100 in his will to run the school. We do not know much about the school but it
was the first school at Pentraeth and the pupils did not have to pay a penny for being
taught.
In 1787 the schoolmasters name was Robert Owen. The only thing we now about him is
that he had attacked someone called John Williams. This happened on September 8th. Poor
John Williams was badly beaten. Robert Owen, the schoolmaster had to go before the court
at Beaumaris but we do not know what happened there. In 1756 Paul Panton married the Plas
Gwyn heiress, Jane, the daughter of William Jones.
It is said that Paul Panton took his duties as the squireof Plas Gwyn seriously. He showed
interest in Welsh literature although his grasp of Welsh was weak. He was given a
collection of manuscripts after Ieuan Fardd after his death in 1787. The Plas Gwyn family
owned the majority of the houses around Pentraeth and the majority of the farms.
In 1840 the Vivien family were the owners of Plas Gwyn. It was Lord Vivien who gave the
land on which the school was built in 1863. Today Mrs Margaret Eleanor Lowrie is the owner
of Plas Gwyn. Her first husband was Claude Panton Vivian. She remarried after Vivian was
killed in the Second World War in 1944 at 24 years of age. |