
|
Dyma lun o blant yr ysgol a dynwyd ym Mis Ionawr, 1997. Ar hyn o bryd mae 88 o blant yn yr ysgol mewn pedwar dosbarth, blwyddyn 0 ac 1 , blwyddyn 2 a 3, blwyddyn 4 a 5 a blwyddyn 5 a 6. Ar ol y Pasg fe fydd dosbarth meithrin yn yr ysgol hefyd. |
Yr Ysgol ers talwm Yn 1862 dechreuodd Roger Evans , masnachwr a pherchennog llongau wneud trefniadau ar gyfer dechrau Ysgol Frytanaidd yn y pentref. Prynwyd tir gan yr Arglwydd Vivian am £490 a chostiodd yradeilad £591. Cafodd yr adeilad ei orffen erbyn Rhagfyr 26, 1863. Roedd cyfarfod mawr yn yr ysgol a chyngerdd yn yr hwyr. Enw'r ysgol oedd Ysgol Frytanaidd , Pentraeth. Plant y capeli oedd yn mynd iddi. Am fod y capelwyr yn codi ysgol , penderfynodd yr eglwyswyr godi ysgol newydd hefyd. Ar Ionawr 4ydd , pan agorwyd ein hysgol ni bu te parti i 75 o blant yn yr Ysgol Eglwys newydd. Yn ystod y cyfnod yma roedd na fobl tlawd iawn yn byw yn y pentref a llawer o blant heb ddillad twt i ddod i'r ysgol. Felly agorwyd CLWB DILLAD. Byddai pobl gyfoethog yn rhoi pres bob blwyddyn ar gyfer prynu dillad i'r plant tlawd. £2.00 roddodd Lady Vivian yn 1864. Cerrig oedd y waliau gyda brics ar y corneli, pedwar corn simnai a chwech o ffenestri ar y ffrynt. Roedd cloch yr ysgol yn hongian ar y tu allan. Dwy ystafell ddosbarth oedd yn yr ysgol yn 1863, un fawr ac un fychan. Ar ganol yr ystafell fychan roedd llenni i'w gwneud yn ddwy. Roedd ty'r ysgol yn rhan o'r adeilad a dyma lle roedd y prifathro a'i deulu yn byw. Roedd tair llofft yn y ty a pharlwr, cegin a sgylyri i lawr y grisiau. Ar y diwrnod cyntaf daeth cant o blant i'r ysgol dan ofal y prifathro newydd , sef Mr Humphrey Owen a ddaeth o'r Coleg Normal. Ei wraig, Mrs Annie Owen oedd yr ysgolfeistres. Roedd sesiwn y bore yn mynd o 8.30 a.m. -12.00p.m. a sesiwn y prynhawn o 2.00 p.m. - 4.00 p.m. am gost o geiniog yr wythnos. Cynhaliwyd yr ysgol am flwyddyn yn yr hen gapel wrth ymyl o Awst, 1926 ymlaen. Roedd yr adeilad cyntaf wedi mynd yn wael a rhaid fu ailadeiladu llawer arno. Ail agorwyd yr adeiladau ar Awst 23 , 1927 gan Yr Arglwyddes Verney, Plas Rhianfa, Porthaethwy. Erbyn heddiw mae darnau newydd wedi eu codi, y ffenestri'r hen ysgol wedi eu newid a'r cyrn simnai wedi eu tynnu i lawr. Roedd darllen llyfr log yr ysgol yn hynod o ddiddorol , wedi ei ysgrifennu yn Saesneg ac yn dangos newidiadau enfawr ym myd addysg ac yn y gymdeithas yn gyffredinol. |

As it is a Community school many activities take place during the day, art club, pensioners club, Nursery School and mother and child. The school is also open in the evening to hold activities such as the badminton club, the whist club and the Bro Dyfnan choirs weekly practice. |
This is a picture of school pupils
taken in January, 1997. At present there are 88 pupils in school in four classes, year 0
and 1, year 2 and 3, year 4 and 5 and year 5 and 6. After Easter there will be a nursery
class at school as well.![]() |
In the Old Days In 1862 Roger Evans, a merchant and ship owner started
to make arrangements for starting a British School in the village. Land was bought from
Lord Vivian or £490 and the building cost £591. The building was completed by December
26, 1863. There was a large meeting at the school and a concert in the evening. The name
of the school was the British School, Pentraeth. Chapel children attended it. Because the
chapel-goers built a school, the church-goers decided to put up a new school as well. On
January 4th, when our school was opened a tea party was held for 75 children in new Church
School. |
pennaeth@pentraeth.anglesey.sch.uk www.mon51.u-net.com |