|
Croeso i Bentrefoelas, un o berlau Uwchaled. Mae Pentrefoelas yn bentref ac ardal sy'n llawn diddordeb i bawb, ble mae'r gorffenol pell yn cwrdd a'r newydd. Ar hyn o bryd mae'r felin ddwr yn adeilad amlwg yn y pentref; a mae son am adeiladu melinoedd gwynt 300 troedfedd ar Fynydd Hiraethog ar gyrion y pentref. Mae harddwch naturiol i'r ardal gyda'i bryniau a'i nentydd, ac mae'n parhau i fod yn ardal naturiol Gymraeg, yn llawn diwylliant. Dewch i ddysgu mwy am Bentrefoelas trwy durio trwy'r tudalennau hyn, neu, well byth, dewch i ymweld a ni.
|
|