|
Pentrefoelas
Pentrefoelas! Mae ganddi hi ei hanes, A ddaw tros llawer canrif atom ni. Rhwng Betws a Cherrigydrudion, Bu ganddi ei henwogion A hoffem ddweud eu stori wrthych chi
Beth wyddoch am Y Giler a Phlas Iolyn? Beth wyddoch am Dy`r clocsiwr a Bryn Gwyn ? Beth wyddoch am y morwr Y llenor neu y soldlir ? Fe geisiwn ateb rhai o`r cwestiynnau hyn
Mae yma hefyd stori i`r hen Foelas , A rhaid peidio ag anghofio Cernogie mawr; Ac os nad yw hyn yn ddigon, Roedd nain i Abraham Lincoln yn dod o `ryn ty a Rhys y Cawr.
Stori drist yw stori'r ferch o Wern Hywel; Rhedodd ymaith gyda`ichariad meddai`r son. Roedd yn bregethwr ac yn siopwr, Ond collodd ef y cwbwl Pan ddrylliwyd y Marchioness ger Sir Fon.
|
|