|
Y prif waith yn ardal Ysbyty Ifan yw ffermio. Ym mhentref Ysbyty Ifan ei hun, mae tair fferm sef, Pandy Isaf, Ty'n Porth a Pen-y- Bont. Mae pedair fferm sydd yn godro yn yr ardal. Yn stad Ysbyty Ifan ( Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol) , mae tua 50 o ffermydd. Os ewch chi i edrych ar y graff oedd ar y dudalen flaenorol, 'Gwaith ein Rhieni' - gwasanaethu sydd fwyaf poblogaidd, OND, ffermio yw gwaith y rhan fwyaf o rieni, Mae'r graff yn gamarweiniol oherwydd 'gwasanaethu' sydd uchaf o ran nifer ond, mae 'gwasanaethu' yn gallu bod yn WAHANOL fathau o waith e.e. helpu hen bobl, athrawes, nyrs.....ac mae 'ar y tir' yn UN math o waith, sef FFERMIO. Ffermydd tir uchel sydd yn Ysbyty Ifan.
Farming is the main occupation of our parents. In the village of Ysbyty Ifan itself, there are 3 farms: Pandy Isaf, Ty'n Porth and Pen-y-Bont. Only four farms in the locality are DAIRY farms . In the Ysbyty Ifan Estate (The National Trust), there are about 50 farms. If you look at the graph on the previous page 'Our Parents' Occupations' - Services outnumbers the rest, BUT, of course there are a variety of jobs that fit into this category e.g. home help, teachers, nurses. Therefore it is very misleading, 'On the Land' refers to FARMING only.
|
|