|
Yr Urdd
Mae Adran Bentref o gangen yr Urdd yn Ysbyty Ifan i blant 4-11 oed. Cynhelir y cyfarfodydd ar ôl ysgol bob prynhawn Llun. Mae hefyd, Uwch -Adran i blant sydd wedi mynd i'r Ysgol Uwchradd. Mai 5ed, 1999, bu plant Blwyddyn 5 & 6 yn cymeryd rhan mewn Sioe Gerdd yng Nghanolfan Chwaraeon Llanrwst. Un o weithgareddau'r Wythnos Gyhoeddi ar gyfer Eisteddfod Bro Conwy yn y flwyddyn 2000 ydoedd. Canwyd caneuon fel : 'Bug y Milenwim' !! Roedd 2 blentyn o'n hadran ni hefyd yn cymryd rhan fel arweinyddion. Roedd holl ysgolion ardal Uwch Conwy ac Uwchaled yn cymryd rhan.
|
|