|
Yn y llun uchod o ddisgyblion Ysgol Ysbyty Ifan mae rhywun sydd erbyn hyn yn enwog iawn drwy Gymru! Orig Williams. Wreslwr o fri ydyw ac fe'i elwir yn El Bandito. Mae Orig Williams wedi ysgrifennu llyfr am hanes ei fywyd 'Cario'r Ddraig' (cofiwch ei ddarllen! ) ac ynddo mae'n dweud: "Y cof cyntaf sydd gen i ydi chwarae pel droed ar iard yr ysgol...Roedd hanner dwsin o'r deuddeg o hogia oedd yn yr ysgol yn hogia ffarmwrs, ac mi roedd rheini'n wfftio atom ni'n lladd ein hunain yn rhedeg a chicio pel...." Erbyn hyn mae Orig Williams yn byw yn Llansannan ac mae ei ferch, Tara Bethan, yn gwneud enw iddi hi ei hun gydag actio a chanu.
|
|