Eglwys Capeli Neuadd y Plwyf Melinau Y Clio

Neuadd Y Plwyf -

The Parish Hall

wpe52.jpg (2535 bytes)

Adeiladwyd Neuadd Y Plwyf ym 1904. Rhoddwyd yr adeilad i’r pentref gan Deulu’r Rathbone er budd pobl y plwyf a hwy roddwyd y tir drws nesaf i’r neuadd iddynt hefyd er mwyn ei ddatblygu fel man hamdden. Lleolwyd y neuadd rhwng Pen-y-Cefn (y dafarn leol) a’r eglwys.

Bwriad gwreiddiol yr adeilad oedd fel ystafell ddarllen ac fel llyfrgell fenthyg. Gellid ei ddefnyddio, hefyd, i gynnal amryw o weithgareddau eraill e.e. ymarferion cor, dramau a gwersi coginio. Defnydd arall a wnaed o’r neuadd oedd fel adeilad i ddarparu cyfleusterau chwaraeon i’r ieuenctid. Ymgais, mae’n debyg, i’w cadw rhag mynd i yfed yn Pen-y-Cefn!

Heddiw, mae’r defnydd a wneir ohonni yn debyg iawn i’r hyn a wnaed yn ystod Oes Fictoria. Cynhelir Eiteddfod Goronog Bro Llandegfan ynddi yn flynyddol. Yn ogystal mae’n fan cyfarfod i lawer o fudiadau megis Clwb Ieuenctid, Cymdeithas Bro, Merched y Wawr, Sefydliad y Merched a Chlwb y Dinasyddion Hyn. Cynhelir nifer o gyngherddau a dramau ynddi a caiff ei defnyddio fel meddygfa’r meddyg ac fel gorsaf pleidleisio adeg etholiadau.

The Parish Hall was built in 1904. It was donated to the village by the Rathbone Family for the benefit of the people. They also donated the site next to it so that it could be developed as recreational ground. The Hall is situated between Pen-y-Cefn ( the local public house) and the church.

It was originally meant to be used as a reading room and a lending library. It could also be used for choir practices, drama and cookery classes. Another of its uses was to provide games facilities for young people. An attempt, it seems, to stop them from going to the Pen-y-Cefn Public House nearby!

Today The Parish Hall is used in much the same way as it was in Victorian Times. In addition to concerts and plays, the annual Llandegfan Crown Eisteddfod is held there. Societies such as the Youth Club, Cultural Society, Merched y Wawr, Women’s Institute and the Senior Citizen Club hold their meeting within its walls and it is also used as a doctor’s surgery and as a polling booth during election times.