wpe1.jpg (18482 bytes)

Ar Ynys Mon mae pentref bychan o’r enw Llangoed, tua tair milltir i’r Gogledd Ddwyrain o dref Beaumaris. Dwy siop sydd yn Llangoed, un go fychan sef Y Post ac un go fawr sef Spar. Er bod y post yn fychan mae llawer o bobl yn mynd yno i brynu stampiau a losin. Oherwydd bod Spar yn fwy o siop mae llawer o fwydydd yn cael eu gwerthu yno a mwy o gwsmeriaid yn mynd yno er mai gwerthu yr un pethau a’r Post y mae.

Un o’r llefydd mwyaf prysur yn Llangoed yw’r Rhyd sef y ty tafarn. Mae llawer o hwyl a sbri yn mynd ymlaen yno. Yn yr hwyr bydd pobl yn chwarae Bingo, cardiau, dartiau a pwl.

Yn sicr mae’r neuadd bentref yn hen iawn ac mae llawer o bethau yn cymryd lle yno fel y Cylch Meithrin, Sioe Flodau Llangoed ac yn yr hwyr mae’r ffermwyr ifanc yn cyfarfod ac yn siarad am ffermio. Er mai dim ond un eglwys sydd yn y pentref, mae hi’n brydferth iawn. Mae dau gapel yn y pentref. Yn bendant mae gerddi Heulfre werth i’w gweld, mae cloc anferth a thy mawr i’r henoed yng nghanol y gerddi, mae angen mwy o lefydd fel hyn yn y pentref.

Ysgol wych yw Ysgol Llangoed. Mae’n ddeuddeg oed ac yn gofalu am 102 o blant. Mae yno un prifathro, tair athrawes a dwy weinyddes.

wpe157.jpg (10326 bytes) Nid wyf yn hoffi un peth am bentref Llangoed sef yr hogiau ifanc yn sefyll wrth safle’r bws yng ngwaelod y pentref fel gwartheg yn brefu.

Fe hoffwn i gael clybiau cerdded yn Llangoed a’r ardal ac fe hoffwn i bobl barchu’r pentref.

Elin Roberts 10 oed