logosirbenfro.gif (3770 bytes)    Defnyddio Testun Awdurdod Addysg Penfro
_______________________________nolglas.gif (1081 bytes)

Achub y Cwm gan Mair Wynn Hughes

    
Ymateb i destun
              

    CANLLAWIAU I'R ATHRO
   

  • Tynnu sylw’r plant at yr atalnodi
    - y gofynnod gan chwilio am bob cwestiwn
    - yr ebychnod
             

           Byth!!!!
                           

    - y dyfynodau a'r berfau 'dweud'

    e.e. meddai, holodd, rhyfeddodd, gorchmynnodd, chwyrnodd

  • Trafod tafodiaith – y geiriau gogleddol
                 
    blêr, budr, domen dail, gwelltglas, biti, rwan.
                              
  • Tynnu sylw’r disgyblion at y priod-ddulliau
                       
    - cerdded linc-di-lonc
    - yma ac acw
                         

    a'r gymhariaeth
                                

    - fe droellai’r afon fel neidr igam-ogam
                                 

    a'r disgrifiadau
                                   

    - marcio’i diriogaeth
    - crychu’i thrwyn
    - syrthiodd gên Dafydd
    - crogi’n llipa


GWEITHGAREDDAU

GW1  Trafod datblygiad 'Cwmni Walker Development'.                                                                       

GW2   Darllen paragraff a thanlinellu ansoddeiriau.

GW3  Tanlinellu berfau yn yr amser amherffaith e.e. gwisgai

GW4  Cywain gwybodaeth o'r darn am y dyfrgi a llunio taflen wybodaeth amdano.  [Adnodd 3]

TASGAU


T1  
Llythyr at gynghorydd lleol i brotestio am ddatblygiad mewn ardal.  *   **
(Mae'r tasgau wedi eu gwahaniaethu.  Mae'r dasg ** yn fwy heriol.)   
 
T2
  Llythyr ffurfiol.   
:

T3
  Ysgrifennu stori

T4   Portread