logosirbenfro.gif (3770 bytes)    Defnyddio Testun Awdurdod Addysg Penfro
_______________________________nolglas.gif (1081 bytes)

Bwthyn Bwganod gan Eleanor Allen

    
Ymateb i destun
                

CANLLAWIAU I’R ATHRO

  • Darllen y frawddeg agoriadol gan dynnu sylw’r disgyblion at y patrwm anarferol. Y disgyblion i lunio brawddegau tebyg ar y cyd. [Adnodd 1]
  • Trafod nodweddion paragraff
    - un syniad sydd mewn paragraff
    - amrywiaeth o frawddegau
    - trefn yn bwysig
  • Darllen gweddill y darn.
  • Tynnu sylw at yr ebychnodau yn y darn.
  • Y disgyblion i roi enghreifftiau o frawddeg / cymal ag ebychnod.

  • Trafod y cwestiynau canlynol fel dosbarth
    (i) Dewisiodd Dafydd y llwybr oedd yn mynd heibio Bwthyn Bwganod, er i’w fam ddweud wrtho i gadw draw. Pam wnaeth Dafydd hyn? Oedd e’n chwilfrydig? Oedd e’n anufudd?
    (ii) Beth fyddech chi wedi ei wneud?
    - ufuddhau
    - mentro ar y llwybr
    Rhowch resymau dros eich dewis.
    (iii) Sut byddai mam Dafydd yn ymateb i’r hyn ddigwyddodd? Sut byddai eich mam yn ymateb petaech chi wedi gwneud yr un peth?
  • Y disgyblion i drafod rheolau yn eu grwpiau ac yna adrodd nôl i weddill y dosbarth. [Adnodd 2]
                                      

GWEITHGAREDDAU

GW1 Ysgrifennu 10 enghraifft ble mae angen defnyddio ebychnod.
                                         
GW2
  Dadansoddi’r paragraff agoriadol.
                        
GW3
  Ysgrifennu paragraff agoriadol.
                      
GW4
  Cynllunio poster
. :
                           

TASG
                 

T1 Ysgrifennu stori. *   **
(Mae'r tasgau wedi eu gwahaniaethu.  Mae'r dasg ** yn fwy heriol.)