logosirbenfro.gif (3770 bytes)    Defnyddio Testun Awdurdod Addysg Penfro
_______________________________nolglas.gif (1081 bytes)

Y Ddraig Goch - Erthygl o Cip

    
Ymateb i destun
                        

CANLLAWIAU I'R ATHRO
                    

  • Cyd-ddarllen y darn am y Dreigiau.    [Adnodd 1]
                      
  • Holi’r disgyblion:
                           
    - Sut bobl oedd Hercules, Apollo a Perseus?
    - Sut berson yw arwr?
    - Pwy yw arwyr heddiw?
    - Beth yw’r gwahaniaeth rhwng dreigiau Groeg a Tseina?
    - Pam oedd y Rhufeiniaid yn cario llun draig mewn rhyfel?
    - Disgrifiwch faner Owain Glyndwr.
  • Tynnu sylw’r disgyblion at y trosiad – ‘draig Gwynedd’ gan feddwl am drosiadau eraill:
                   
    e.e. cawr y pentref
    mwnci’r dosbarth
    draig yr ysgol!
  • Darllen chwedl Dinas Emrys i’r plant.  [Adnodd 2]
  • Egluro beth yw chwedl.
                            
GWEITHGAREDDAU
             

                                                             
GW1
  
Cywain gwybodaeth am Owain Glyndwr.

GW2   Llunio paragraff yn cyflwyno gwybodaeth am Llywelyn Fawr.

GW3 a GW4   Adnabod baneri’r byd / Dewis baner a chasglu gwybodaeth am y wlad.   :
                                                   

TASGAU
                  

T1    Deialog yn seiliedig ar y gerdd.