logosirbenfro.gif (3770 bytes)    Defnyddio Testun Awdurdod Addysg Penfro
_______________________________nolglas.gif (1081 bytes)

Mac Pync gan Alys Jones

    
Ymateb i destun
              

    CANLLAWIAU I'R ATHRO
   

  • Dechrau trwy ddangos llun du a gwyn o Mac Pync (Adnodd 1)
                
  • Trafod y llun trwy ymateb i'r cwestiynau canlynol:

    -  Sut wisg sydd ganddo?
    -  Sut fyddai'r plant yn disgrifio ei wallt?  Fel .......
    -  Sut gymeriad sydd ganddo?
    -  Sut fyddai'r plant yn disgrifio ei osgo?
                         
  • Darllen disgrifiad parod o Mac Pync i'r plant.   (Adnodd 2)
                        
  • Trafod fel dosbarth:

    -  Ydy e'n ddisgrifiad da?
    -  Sut gellir ei wella?
                                       
  • Darllen y darn fel dosbarth.  (Adnodd 3)

    Tynnu sylw'r disgyblion at yr ymadroddion canlynol:

    rhoi ffidil yn y to mewn dau chwinc
    crychai ei dalcen chwarae teg
    wrth ei gynffon cael waldan
    rhag ei gywilydd bachwch hi
    gwaed yn berwi heglu hi o'r cae
    cael y cyfan drosodd colli ei wynt yn lân
    pen yn troi Sul y pys
    mynd â'i wynt                         dan ei gesail
                                        
  • Tynnu sylw'r disgyblion at yr ansoddeiriau a'r cymariaethau
                                                 
    e.e. teimlai Arwyn fel un o'r gladiators
    cylch o wynebau fel balwnau mewn ffair
    penliniau a dyrnau yn symud fel rhyw beiriant rhyfedd
    lledu ei freichiau fel plisman
    Mac Pync yn plygu fel consartina
    cododd Arwyn fel wiwer
    llygaid fel marblis glas enfawr
    gwallt brith bler fel llwyn drain wedi drysu
    siglo nôl a blaen fel llong hwyliau mewn storm
    blagardio fel meinar
                                                                                                 
  • Trafod y cwestiynau isod:
                                                         
    Pan fydd plentyn newydd yn ymuno â'r dosbarth sut fydd y plant yn gwneud iddo/iddi deimlo'n gartrefol
                                          
    a) yn y dosbarth
    b) yn yr ysgol
    c) ar yr iard chwarae?
                                      

GWEITHGAREDDAU

 

GW1  Ysgrifennu disgrifiad manwl o Mac Pync *     **
(Mae'r tasgau wedi eu gwahaniaethu.  Mae'r dasg ** yn fwy heriol.)                                                                       

GW2  Trafod cwestiynau ar y darn yn eu grwpiau

GW3  Cymariaethau - cysylltu dechrau a diwedd cymhariaeth

GW4  Cwblhau Swigod Siarad

GW5  Ysgrifennu deilaog

GW6  Disgrifio cymeriad

GW7  Trafod rheolau ysgol
                    
GW8  Disgrifio Mac Pync    
:
                
GW9  Ansoddair a chymhariaeth   
:         

 

TASGAU


T1  
Llythyr yn cwyno
 
T2 
Stori

T3 
Taflen wybodaeth am yr ysgol