logosirbenfro.gif (3770 bytes)    Defnyddio Testun Awdurdod Addysg Penfro
_______________________________nolglas.gif (1081 bytes)

Pwyll yn cwrdd â Rhiannon gan Alun Ifans
[Pedair Cainc y Mabinogion i Ddysgwyr]

    
Ymateb i destun
              

    CANLLAWIAU I'R ATHRO
   

  • Darllen y ddau fersiwn i’r dosbarth – Pwyll yn cwrdd â Rhiannon – Alun Ifans
    [Adnodd 1]
              
    3 pharagraff o lyfr Gwyn Thomas [Adnodd 2]
  • Gofyn am eu hargraffiadau cyntaf o’r darnau. Ydy’r ddau yn debyg? Ym mha ffordd? Pa wahaniaethau?
  • Grwpiau i drafod dwy frawddeg o’r ddau fersiwn.
                           
    Dylai'r plant sylwi ar - yr arddull wahanol
    - geiriau anodd mewn un darn
    - ac mai'r un yw'r cynnwys  [Adnodd 3]
  • Tynnu sylw at eiriau amser yn y stori. e.e un diwrnod, trannoeth, blwyddyn.
                               
  • Gofyn am eiriau eraill sy’n dynodi amser gan ychwanegu fel bo angen :
                                                           
    heddiw, yfory, ddoe, echdoe, trannoeth, drennydd, mis, wythnos, pythefnos, blwyddyn, degawd, canrif, mileniwm.

  • Darllen y trydydd darn a thrafod yr hyn sy’n digwydd. [Adnodd 4]
                               

GWEITHGAREDDAU

GW1  Paragraff Disgrifiadol am wisg.                                                                       

GW2 a 3 Darllen paragraff a thanlinellu ansoddeiriau.   Ail Ysgrifennu'r trydydd rhan gan symleiddio'r testun.

GW4  Gosod dyfyniadau  :

TASGAU


T1  
Ysgrifennu stori chwedlonol ar gyfer plant iau.