logosirbenfro.gif (3770 bytes)    Defnyddio Testun Awdurdod Addysg Penfro
_______________________________nolglas.gif (1081 bytes)

Te yn y Grug gan Kate Roberts

    
Ymateb i destun
                         

CANLLAWIAU I'R ATHRO

  • Darllen y darn i'r disgyblion a hwythau i ddilyn.  [Adnodd 1]
  • Holi'r cwestiynau canlynol:
                       
    - Sut mae'r awdures yn agor y stori?
    [gyda chwestiwn / sgwrs.  Ydy hynny'n ffordd dda o ddechrau stori?]
    ennyn diddordeb yn syth - h.y. beth mae Begw eisiau'i weld; Down i adnabod y cymeriad yn syth; mynd yn syth i ganol y stori]
                            
    - Ydy'r stori yma yn disgrifio plant heddiw, plant fel chi?  Pam?
                     
    - Sut mae Begw yn teimlo am y jeli?
    [rhyfeddod; hoffi'r teimlad braf o'i fwyta; ddim eisiau ei rannu â neb]
            
    - Sut ferch ydy Mair [lartsio - ymffrostio]
    Ydych chi'n hoffi pobl sy'n ymffrostio?  Fyddwch chi'n ymffrostio weithiau?  Am ba fath o bethau bydd pobl yn ymffrostio?]
  • Holi'r disgyblion am bopeth sy'n ein helpu i ddarlunio Mair.
    Ac yna am bopeth sy'n disgrifio Winni Ffinni Hadog.
                                     
  • Gofyn am ddisgrifiad o'r merched yn cerdded i'r mynydd.
                                                                                      
    - Pen noeth
    - Rhubanau yn ei gwallt
    - Mair yn cario babi do, Begw a'i brechdanau.
                     
    -

    Ydy'r disgrifiad yn ddigon da i chi fedru dychymygu'r ddwyn yn cerdded i'r mynydd?
                   

    -

    Sut mae Winni'n wahanol i'r ddwy arall?
    [gwisgo hen ffrog, dillad brwnt, ei gwallt yn flêr ac yn disgyn i'w llygaid.  Gwisgo clocsiau, rhegi - mwy gwyllt.]

  • Chwilio am gymariaethau
                        
    - a'u rhubanau gwallt fel ieir bach yr ha'
    - dwy ffrilen fel gwyntyll
    - fel dwy fraich sowldiwr pren
    - fel swyddogion byddin.

                            
    a thrafod a ydyn nhw'n ein helpu i ddarlunio'r olygfa?

  • Trafod beth fydd yn digwydd nesaf tybed?
                                   
  • Gwylio'r fideo o'r olygfa o'r ffilm Mynydd Grug a'i thrafod.  [Adnodd 2]
                                 
GWEITHGAREDDAU
         
GW1   Trafod mynd i rywle heb eu rhieni am y tro cyntaf.

GW2   Darllen brawddegau yn nhafodiaith y gogledd a'u newid i'w tafodiaith hwy.

GW3   Cyfateb geiriau deheuol â geiriau gogleddol.  
:
                          

TASGAU
                 

T1   Ysgrifennu paragraff yn cymharu dau gymeriad.

T2   Ysgrifennu stori.