Helpu disgyblion ag Anawsterau
Dysgu Penodol
Lluniwyd y pecyn hwn gan yr athrawon canlynol Buddug
Pauline, Flo Roberts, Eifion Jones, Ann Jones, Carys Hughes, Sharon Griffith, Carys Wynne,
Eleri Owen, Emily Glyn, Margaret Roberts, Sylfia Vater, Gareth Rowlands
Mewn ymgynghoriad â E. Annette Evans, Ymgynghorydd
AAA.
Bwriad y pecyn yw rhoi arweiniad byr i athrawon
pwnc ar sut i ymdrin â disgybl sydd gydag Anawsterau Dysgu Penodol.
Cyffredinol
PRIF GANLLAWIAU
A. Cyffredinol
- Dod i adnabod y plentyn
- Ymwybyddiaeth oi anawsterau a natur ei broblem
- Ymgynghori ar cyd-gysylltydd am fanylion pellach
- Arsylwi ar y plentyn a dod yn ymwybodol oi drafferthion
- Cyraeddiadau. A ywr plentyn yn cyflawni ei lawn botensial?
- Peido â chymeryd yn ganiataol ei fod wedi deall y cyfan a
ddywedir/ddarllenir
- Canfyddwch lefel ei ddeallusrwydd fel man cychwyn
- Ynganwch yn eglur ac araf. Mae gan rhai plant dyslecsia, nam
clywedol, h.y. cymeryd amser i ddadansoddi swn ac ystyr.
- Dangoswch gydymdeimlad tuag atynt trwy beidio a'u barnun llym,
e.e. cyfeirio atynt fel "thick, hopeless, nuisance" ac yn y blaen. Nid yw ambell
anhawster neu ddiffyg yn weledol e.e. Ni fuasech yn rhoi plentyn a nam corfforol arno mewn
gem rygbi.
- Nid oes ganddynt amgyffred o amser, ac o ganlyniad yn ymateb yn
arafach (yn llafar ac yn ysgrifenedig). Felly, caniatewch iddynt gael mwy o amser.
- Cof cyfnod byr sydd ganddynt felly mae angen ail-adrodd llawer.
- Deallwn fod gan bawb eu system bersonol lwyddiannus o gyflwyno eu
pwnc.
B. Cynllunio Taflenni Gwaith
- Cyflwyniad byr iw hatgoffa or wers flaenorol, (dilyniant
os yw hyn yn berthnasol). Adeiladu ar yr hyn a wyddent yn barod.
- Digon o deitlau mewn print bras a phenawdau wedi eu tanlinellu.
- Print eithaf mawr ar y cyfan ond gall amrywiaeth maint ac arddull
hefyd gadw ei ddiddordeb.
- a. Brawddegau syml, heb gymlethdod. Dim gormod o ffeithiau o fewn un
cymal. Adrannau byrion. Tanlinellur ffeithiau pwysicaf.
b. Aralleirio nodiadau o lawlyfrau a pheidio defnyddio gormod ar erthyglau papurau newydd
yn eu crynswth oherwydd gallent fod yn ddarnau hirwyntog, cymhleth.
- Peidio "gorlwytho" tudalen. Ei rhannu yn
"focsys". Gadael digon o ofod rhwng y gwahanol ffeithiau.
- Defnyddio lluniau, diagramau, mapiau, siartiau a thablau syml
ddisgrifio/egluro ffeithiau yn ogystal âr dulliau ysgrifenedig. Amrywiaeth ar un
dudalen - paragraff byr, lluniau, brawddegau wedi eu rhifo, cymharu dau graff ac yn y
blaen.
- Ar waelod y dudalen gellir:
i. ailadrodd geiriau allweddol
ii. rhoi eglurhad i eiriau anodd/dieithr
- Gwaith estynedig neu waith cartref mewn cyfarwyddiau clir, byr,
pendant. Os ywr gwaith yn anodd/cymhleth, yna rhoi cyfarwyddiau fel y gall rhiant eu
helpu.
- a. Nodyn bach ysgrifenedig yn help iw hatgoffa or dasg
e.e. chwilio am lun perthnasol.
b. Dewis ffeithiau allweddol au rhifo fel adolygiad o waith ysgrifenedig.
c. Cyfarwyddiadau syml beth iw wneud a mwy or ymarferol yn hytrach nar
darllen ar gwaith ysgrifenedig.
- Gwneud defnydd o lyfrau ffeithiol sydd wedi eu darparu ar gyfer eu
hoed darllen.
Rhaglenni cyfrifiadureg, gêmau, cardiau gwaith wedi eu graddoli ac yn y blaen.
Gwaith Cartref
- yr athro i gofnodi
- gwneud yn siwr fod y disgybl yn deall
- cadwr cyfarwyddiadau yn syml.
Yn y dosbarth
- cefnogaeth - athro neu ddisgybl arall
- drilio ar lafar
- arddangos geiriau allweddol
- dysgu geiriau mewn dull cyfeiriol
- gemau i atgyfnerthu
- defnyddio rhaglenni cyfrifiadurol - gellir cynhyrchu rhaglenni
penodol e.e. ar Fy Myd
- gwaith cyfannu yn llai o strâch
- dulliau aml synhwyrol yn help i ddisgyblion dyslecsia
Pwnc: Llythrennedd
Nodweddion Cyffredinol
- Anghofus ac anhrefnus (colli offer, anghofio gwaith cartref)
- Methu canolbwyntio
- Trafferth cofio nôd y dasg
- Trafferth gyda dilyniant (dyddiau, rhifolion)
- Methu meddwl yn rhesymegol
- Tueddu i osgoi gwaith yn hytrach na chyfaddef na allant ei wneud)
- Trafferthion cytgord llaw/llygaid - llawysgrifen flêr
Darllen
Gofalu fod y print yn ddigon bras.
Dangos fod perthynas rhwng darllen/sillafu.
Annog y plant i dorri geiriau yn ddarnau llai, h.y. fesul sill.
Defnyddio cardiau fflach i ddysgu geiriau edrych a dweud.
Os ywr plentyn yn baglu ar ail, rhoir cyfle iddo roi ailgynnig ar y gair.
Defnyddio dull Pause - Prompt - Praise.
Peidiwch gofyn iddynt ddarllen ar goedd.
Os ywn ymarferol dylid darllen cyfarwyddiadau tasgau iddynt - maen debygol o
ddeall y dasg yn llawer gwell.
Gwnewch ddefnydd o lyfrau ar dâp iddynt glywed y gair yn ogystal âi weld.
Mae canmoliaeth yn bwysig i hybu eu hunan hyder.
Ceisio creu diddordeb mewn darllen trwy gyd-ddarllen. Mae darllen ir disgyblion hyn
yn dasg lafurus yn hytrach na phleserus.
Ni ddylid rhoi gormod o wybodaeth iddynt ei ddarllen ar un dudalen, a pheidio cywasgu bob
dim i un dudalen. Gofalu fod unrhyw daflen waith wedi ei anelu at ei oed darllen.
Sillafu
Defnyddio cardiau fflach i gyflwyno geiriau newydd.
Gwneud rhestr o eiriau defnyddiol.
Clustnodi tudalen yn eu llyfrau pwnc fel bod posib eu hadolygu yn y wers iaith.
Ni ddylid gofyn ir plentyn chwilio am air mewn geiriadur.
Dylid defnyddio patrymau geiriau i ddysgu sillafu (pam, cam, jam)
Mae angen bod yn bositif wrth farcio gan dynnu sylw at un neu ddau o wallau ar y tro.
Marcio cynnwys ar iaith ar wahân.
Dylid tanlinellur gwallau mewn pensil i roi cyfle ir plentyn gywiro gair a
chwalur marc pensil.
Ysgrifennu
Peidio gofyn iddynt gopïo oddi ar y bwrdd-du.
Gorau po gyntaf y bydd y disgybl yn cychwyn ar lawysgrifen ddwbl.
Mynd dros y gwaith yn llafar cyn disgwyl iddynt ymgymryd ac unrhyw dasg ysgrifenedig.
Gwirio ei fod wedi cofnodir dasg yn gywir.
Angen eu hatgoffa bob gwers i ddefnyddio llythyren fawr/atalnod llawn.
Defnyddior prosesydd geiriau pan yn ymarferol a spell check
Gofalu fod y gwaith blaenorol yn gadarn ar y cof cyn symud ymlaen i dasg newydd.
Rhoi amser estynedig i gwblhau tasg.
Cydnabod eu llwyddiant pa mor bynnag fychan ydi o.
Ni ddylid cymeryd unrhyw beth yn ganiataol maen rhaid bod yn ymwybodol ou
problemau yn barhaol.
Pwnc: Mathemateg
Beth yw Dyslecsia?
Nid trafferthion syn gyfyngedig i iaith a darllen yn unig yw dyslecsia. Gall
problemau dyslecsia greu anhawster dybryd mewn Mathemateg.
Enghreifftiau o broblemau cyffredinol:
- COF - methu cofio tablau, trefn
dyddiaur wythnos, misoedd y flwyddyn, fformiwla fathemategol
- DE A CHWITH
- problemau gyda
cyfesyrannau (gwaith map), gwerth lle rhif (pwynt degol)
- AMSER
- anhawster deall a
threfnu eu hamser, cael trafferth i orffen gwaith o fewn amser penodedig.
- YMDDYGIAD
- gwylltio
hefoi fethiant i gyflawni neu i orffen gwaith ar bapur. Diffyg hunanhyder. Diffyg
canolbwyntio o fewn y wers. Methu trefnu ei hun ai waith. Gall problemau ymddygiadol
ac emosiynol ddatblygu gan greu anhwylustod o fewn y sefyllfa ddosbarth.
PROBLEMAU PENODOL MATHEMATEG AR PLENTYN DYSLECSIG
Cof Tymor Byr
a. Anhawster i gofio trefn cyfarwyddiadau
b. Methu datrys problemau
c. Cof cyfyngedig - methu canolbwyntio ar y dasg os oes gormod o wybodaeth
Cof Tymor Hir
a. Methu cofio trefn pethau.
b. Methu cysylltu testunau Mathemategol
c. Methu cofio pethau fel tablau
Dryswch Cyfeiriol
a. Problem i gychwyn sym yn y lle cywir
b. Problem i ysgrifennu rhifaun gywir
c. Methu cofio - de/chwith
ch. Methu gweithio o gwmpas pwynt degol
d. Dilyniant yn broblem
Anawsterau Canfyddiad Gweledol
a. Problem gweld y gwahaniaeth gydag arwyddion tebyg + x - ÷
b. Methu adnabod siapau tebyg, e.e. trionglau gwahanol
Methu Gosod Pethau Mewn Trefn
a. Cyfrif yn ôl/cyfrif ymlaen
b. Dyddiaur wythnos a misoedd y flwyddyn
c. Patrymau Rhif
ch. Rhoi trefn ar dasgau
Cael Problemau
a Deall gwerth lle
b. Copïo or bwrdd du/o lyfr a.y.y.b
c. Adnabod patrwm
ch. Dau ddimensiwn/tri dimensiwn
Iaith Fathemategol
a. Methu deall symiau llafar
b. Methu darllen a deall cwestiynau Mathemategol
c. Methu enwi arwyddion a symbolau yn gywir bob amser
ch. Camddeall geiriau sydd â dau ystyr
Methu Datrys Problemau
a. Problem i wybod beth iw wneud a pham
b. Methu meddwl yn rhesymegol
c. Methu cysylltu sefyllfa real a symbolau
ch. Problem i lunio diagramau
Problem sgiliau motor
a. Methu trin offer Mathemategol
b. Methu llunio diagramau
c. Methu copïo siapau
Pwnc: Hanes
Cof tymor byr
Anghofio trefn cyfarwyddiadau
Diffyg canolbwyntio
Anghofio offer
Anghofio gwneud gwaith cartref
Gwallau mewn iaith lafar
Cof tymor hir
Methu cofio trefn:
- dyddiaur wythnos
- misoedd y flwyddyn
- rhifau
- llythrennau
- storïau
- digwyddiadau
Cael trafferth gyda chysyniad o amser.
Trafferth dwyn i gof ffeithiau a gwybodaeth mae eisoes wedi dysgu.
Dryswch cyfeiriol
fyny/lawr
chwith/dde
dan/dros
tu blaen/tu ôl
Angen atgoffa weithiau lle i gychwyn ysgrifennu ar dudalen.
Anawsterau canfyddiad gweledol
Trafferthion efo geiriau allweddol pwnc.
Cael problemau
Adnabod gair cyfan - angen ei dorrin sillaf.
Trafferthion cytgord llaw/llygaid - llawysgrifen flêr.
Cofio dyddiadau hanesyddol yn broblem.
Trafferth efo dilyniant digwyddiadau hanesyddol
Trafferth efo cysyniad o amser
Copïo gwaith oddi ar fwrdd-du yn broblem.
- felly peidio rhoi gwybodaeth yn rhy gyflym
- peidio darllen ar goedd
- peidio rhoi gormod o ffynonellau ar unwaith wrth chwilio am dystiolaeth
Methu datrys problemau
Problemau dilyn cyfarwyddiadau
Camsillafu geiriau
Cam ddehongli cyfarwyddiadau
Cam gopïo gwaith
Trafferth cwblhau tasgau
Problemau gyda diagramau - mapiau a.y.b.
Pwnc: Daearyddiaeth
- Gwybodaeth o anghenion cyffredinol disgyblion sydd â dyslecsia
- Trafod taflenni efo athrawon disgyblion AAA.
Mapiau
- Lliw yn bwysig i ddisgyblion dyslecsia
- Dim gormod o wybodaeth
- defnyddio OHP.
Nodiadau
- darganfod beth ywr ffurf hawsaf ir disgybl
- llun gopïo
- copïo oddi ar daflen - ddim oddi ar y bwrdd-du.
- dim ond cofnodi beth syn angenrheidiol
- rhoi canmoliaeth pan fydd yr ateb wedi ei gofnodi mewn ffordd
ddealladwy
- cofnodi ar dâp
- Cynllun Coryn yn ffordd haws i gofio
- rhoi ychydig o wybodaeth ar daflen - ffont addas
Methu datrys problemau
Problemau dilyn cyfarwyddiadau
Camsillafu geiriau
Cam ddehongli cyfarwyddiadau
Cam gopïo gwaith
Trafferth cwblhau tasgau
Problemau gyda diagramau
Cof tymor byr
Anghofio trefn cyfarwyddiadau
Diffyg canolbwyntio
Anghofio offer
Anghofio gwneud gwaith cartref
Gwallau mewn iaith lafar
Anawsterau canfyddiad gweledol
Trafferthion efo geiriau allweddol pwnc.
Pwnc: Addysg Grefyddol
Problemau
1. Cof tymor byr
a. Anhawster i gofio trefn cyfarwyddiadau
b. Cof cyfyngedig - methu canolbwyntio ar y dasg os oes gormod o wybodaeth
c. Cael trafferth copïo oddi ar y bwrdd du, a chymryd nodiadau wedi eu harddweud.
Syniadau i oresgyn y rhain
- Torri cyfarwyddiadau i lawr i gamu llai au symleiddio
- Canolbwyntio ar y prif bwyntiau
- Gwirio eu bod wedi deall
- Amrywio tasgau i gynnwys gwaith llafar, arlunio, symud ac actio yn
ogystal â gwaith ysgrifenedig
- Defnyddio taflenni i ysgafnhau y baich o gopïo oddi ar y bwrdd neu
gymryd nodiadau.
2. Cof Tymor hir
a. Methu cofio trefn pethau, e.e. trefn gwasanaeth, defod, trefn
digwyddiadau y Beibl.
b. Methu cofio nifer o ffeithiau, dyddiadau, a dysgu darnau ar y cof, e.e. Gweddir
Arglwydd.
c. Anghofio beth yw y gwaith cartref
ch. Cymysgu rhwng y crefyddau gwahanol e.e. Hindwiaeth a Siciaeth
Syniadau i oresgyn y rhain
- Defnyddio darluniau neu stribedi cartwn a rhestrau syml er mwyn
sbardunor cof.
- Ail adrodd ffeithiau mewn dulliau gwahanol e.e. yn llafar, yn
weledol.
- Sicrhau fod gwaith cartref wedi ei nodi yn eglur fel bod rhieni hefyd
yn ymwybodol o beth ywr dasg.
3. Dryswch cyfeiriol a threfn
a. Anhawster i gofio dilyniant stori/dameg
b. Anhawster wrth gychwyn a chynllunio darn o waith
c. Anhawster i gofio de/chwith/dwyrain/gorllewin
Syniadau i oresgyn y rhain
- Rhoi man cychwyn pendant a chynllun cadarn ir dasg
- Sicrhau bod cefnogaeth ir disgybl drwy gydol tasg.
4. Anawsterau canfyddiad gweledol
a. Problem adnabod symbolau, e.e.
Syniadau i oresgyn y rhain
- Defnyddio dulliau aml-synhwyrol, e.e. teimlo, dargopio i ddysgu
symbol
- Arbrofi gyda phapur gwahanol liwiau.
5. Iaith
a. Anawsterau gyda sgiliau iaith yn gyffredinol, e.e. sillafu,
atalnodi, ffurfio brawddeg syn gwneud synnwyr
b. Problemau gyda ieithoedd a thermau dieithr, e.e. Ramadam, Gurdwara
Syniadau i oresgyn y rhain
- Peidio cywiro gormod ar iaith rhag lladd diddordeb y disgybl yn y
pwnc
- Annog y disgybl i geisio cywiro ei waith ei hun - Tynnu sylw at un
neu ddau o wallau ar y tro, e.e. prif lythrennau, atalnodau llawn.
- Dysgu termau newydd o flaen llaw, os yn bosib gyda gemau, cardiau
fflach.
6. Methu Datrys Problem
a. Methu meddwl yn rhesymegol, e.e. gweld ystyr a moeswers dameg.
b. Methu cysylltu symbol ai ystyr
Syniadau i oresgyn y rhain
- Meddwl am straeon modern syn cyfleu yr un syniad ac yna cael y
disgybl i wneud tasg gyffelyb
7. Problemau Sgiliau Motor
a. Anhawster i gopïo symbolau a diagramau
b. Llawysgrifen aneglur a blêr a chroesi allan
Syniadau i oresgyn y rhain
- Dargopio, gludo symbolau oddi ar daflen iw llyfrau
- Defnyddio Technoleg Gwybodaeth i gyflwyno gwaith mewn diwyg taclus,
er mwyn rhoi boddhad a hyder ir disgybl.
8. Cyffredinol
a. Problemau darllen
b. Araf yn cynhyrchu gwaith
c. Angen llawer mwy o ymdrech i greu gwaith o safon
Syniadau i oresgyn y rhain
- Peidio gofyn ir disgybl ddarllen yn uchel ir dosbarth oni
bai fod trefniant/ymarfer wedi bod.
- Lleihau swm y tasgau neu ganiatau amser ychwanegol i gwblhau y
gwaith.
- Bod yn ymwybodol o broblemaur disgybl bob amser a chydnabod
unrhyw lwyddiant boed yn fach neun fawr mewn dull sensitif ac adeiladol
Pwnc: Cerddoriaeth
1. Problemau Iaith
a. Dysgu termau cerddorol penodol - Dryswch rhwng termau
gwahanol, e.e. Nodyn cyfan a semi breve a 4 beats yn
golygur un peth.
b. Darllen gweledol
(i) Gellir maint y print achosi problemau
(ii) Mae llawer o waith cerddorol yn dibynnu ar ddysgu geiriau gweledol.
c. Dryswch rhwng ysytr geiriau
Geiriau cyffredin au hystyr o fewn cerddoriaeth, e.e. nodyn, uchel,
isel...
2. Cof Tymor Byr
a. Anhawster i gofio trefn cyfarwyddiadau
b. Cof cyfyngedig - anodd canolbwyntio os oes gormod o wybodaeth ar daflen gwaith.
3. Cof Tymor Hir
a. Cofio llinellau cleff a bylchau a pha nodau maent yn eu
cynrychioli
b. Cofio geiriau caneuon, mae hyn yn broblem ir disgybl sydd â chôf dilyniannol
clywedol gwael.
4. Adnabod Patrwm
a. Methu cadw curiad / rhythm
b. Mae disgybion dyslexig yn cael trafferth gyda odli (rhyme)
c. Wrth ganu mewn côr - gallent ddod i fewn ar yr adeg anghywir neu fethu ciw mewn
cerddorfa
5. Dryswch Cyfeiriol
a. Methu cofio de/chwith; fyny/i lawr
(i) wrth chwaraer piano - pa law i ddefnyddio
(ii) wrth ddefnyddior pedalau
(iii) Drysu cyfarwyddiadau perfformiad, e.e. drysu y symbolau
< >
(crescendo) (dimuendo)
(iv) Dryswch cyfeiriol wrth ddelio gydar symbolau am
wythfedau.
b. Wrth ysgrifennur nodau ar yr erwydd, maen bosib
iddynt wrth-droi coesaur nodiadau (fel gwrthdroi b/d; p/q)
c. Gall y disgybl golli ei le ar y dudalen yn enwedig os ywn
gorfod edrych ar yr arweinydd ar yr un tro.
6. Theori
Mae hyn yn golygur agwedd ysgrifenedig or gwaith. Os
ywr athro/athrawes yn ymwybodol or broblem, maen bosib fod yn fwy hyblyg
wrth ymdrin ar gwaith.
Pwnc: Celf
Anhawster wrth gopïo siapau a chynlluniau haniaethol, a chopïo oddi
ar y bwrdd du.
Dylair athro fod yn ymwybodol o gryfderaur disgybl
dyslexig - mae ganddynt ddawn greadigol - yn dda am arlunio a syniad da o liw.
Anhawster wrth wneud gwaith torri.
Pwnc: Gwyddoniaeth
Gwybodaeth Cyffredinol
Canllawiau Penodol i Wyddoniaeth
- Termau/geirfa ar ddechrau blwyddyn mewn llyfr sydd wedi ei
rhannun bynciol.
- Termau/geirfa benodol ar gyfer pob modiwl. Lluniau i gyd fynd
âr termau.
- Sgiliau Gwyddonol y dylid eu meistroli, e.e. pwyso, mesur, amseru,
defnydd o offer y labordy. Llunio taflenni y gellir cyfeirion ôl atynt.
- Taflenni Gwaith er mwyn osgoi copio oddi ar y bwrdd
du/gwyn/OHP, e.e. Clir, print mawr, steil yn rhwydd i ddarllen..
Syml ond nid babiaidd
Brawddegau byr
Diagramau clir - labelu syml (ddim yn croesi ei gilydd)
Dim gormod o wybodaeth ar un daflen
- Taflen waith i hwylusor gwaith ymarferol
Taflen iw hatgoffa or drefn
e.e. Rhowch........................ü ) ar ôl
Estynnwch................... ü )
cwblhaur cam
Lle i ymateb/arsylwi ar gyfer cofnodir arbrawf. Taflen
or fath yn helpu trefn arbrawf ar cofnodi.
Tasgau Ymarferol - gofalu bod digon o le, bod y grwpiaun
fychan, cyfrifoldeb am un rhan or arbrawf
6. Profion/Arholiadau
Aml ddewis/Cyfannu/Cwestiynau byr strwythuredig
7. Gwahaniaethu
Pwnc: Addysg Gorfforol
Cyffredinol:
Yn aml, ymddengys y plentyn dyslexic yn drwsgl ac yn anhrefnus yn ei
symudiadau. Nid yw pob amser yn deall, nac yn dilyn cyfarwyddiadau. Maen gallu
amharu ar wersi trwy anghofio offer a dillad ar gyfer ymarfer corff. Mae weithiau yn cael
ei hun mewn anhrefn llwyr e.e. yn colli pethau byth a beunydd. Rhaid cydnabod
problem y plentyn gyda de a chwith, hyn yn gallu amharu ar ei ddealltwriaeth o safleoedd
yn gysylltiedig â chwaraeon tîm. Gall fod problem cysyniad amser gan y plentyn dyslexic.
Yn aml ni fuasair plentyn dyslexic yn gallu dilyn a deall cyfarwyddiadau tactegol
hir wyntog ar gemau. Yn aml mae hunan ddelwedd y plentyn yn isel.
Torrir Problemau i Lawr
1. Anghofio dillad/offer pwrpasol ar gyfer Addysg
Gorfforol
- Copi or amserlen wythnosol ir rhiant, pennaeth blwyddyn
yn ogystal â'r plentyn yn tynnu sylw at (i) amser y wers a (ii) offer angenrheidiol.
- Ar gyrraedd yr ysgol i gadwr kit mewn safle
penodedig. (lle maer athro cofrestru ar athro ymarfer corff yn ymwybodol
or trefniadau).
- Dylid cymeryd pob cyfle posibl i ganmol y plentyn ai annog i
gymeryd rhan llawn yn y gweithgaredd. Yr athro i roi cefnogaeth positif a chyfarwyddyd byr
a phwrpasol ir plentyn dyslexic er mwyn ei annog.
- Unrhyw dactegau iw trin au trafod mewn modd hollol
ymarferol.
- Yr athro/athrawes i rhoi y plentyn dyslexic mewn grwp gweithgaredd yn
hytrach nar plant e.e. yn aml un or dewisiadau olaf gan y plant fuasair
plentyn dyslexic, hyn yn amharu ar ei hunan ddelwedd.
Pwnc: Dylunio a Thechnoleg
Canllawiau Penodol i Ddylunio a Technoleg
- Termau/geirfa ar ddechrau blwyddyn mewn llyfr sydd wedi ei
rhannun bynciol.
- Termau/geirfa benodol ar gyfer pob modiwl. Lluniau i gyd fynd
âr termau.
- Sgiliau Technegol y dylid eu meistroli, e.e. pwyso, mesur, amseru,
defnydd o offer y gweithdy neur gegin,
- Taflenni Gwaith er mwyn osgoi copi oddi ar y bwrdd
du/gwyn/OHP,
e.e. Coginio - Dilyn riset
__ am y cynhwysion
__ am yr offer
Lluniau gam wrth gam
- Taflen gynllunio - cynnig nifer o gynlluniau parod i ddewis
ohonynt i feithrin sgiliau cynllunio a threfn, a sgiliau ymchwilio a dadansoddi
Cyflwyno aseiniad dylunio a gwneud cyfan ir disgyblion - ymdeimlad o lwyddiant.
- Profion/Arholiadau
Aml ddewis/Cyfannu/Cwestiynau byr strwythuredig
|