Llawlyfrau Athrawon
___________________________________
Yn ôl..

Dyma restr o lyfrynnau a fydd o ddefnydd i athrawon ar gyfer disgyblion sydd â chanddynt anawsterau dysgu, ble mae lefel gyffredinol eu cyrhaeddiad academaidd yn sylweddol is na lefel eu cyfoedion.  Y rhan amlaf, cânt anhawster wrth ennill medrau rhifedd a llythrennedd sylfaenol.

Lluniwyd y llyfrynnau isod gyda'r bwriad iddynt fod yn adnodd buddiol i athrawon wrth weithredu Rhaglenni Addysg Unigol ac ar gyfer Gwahaniaethu yn y dosbarth ar gyfer disgyblion sydd gyda anawsterau dysgu cyffredinol a phenodol.

Cyfathrebu

Defnyddiau yn deillio o gwrs gyda Therapydd Iaith a Lleferydd. Syniadau ymarferol ar sut i wella Cyfathrebu.

Cyfathrebu

Helpu disgyblion ag anawsterau dysgu penodol - Dyslexia.

Cynnyrch gweithgor o athrawon a fu’n edrych ar nodweddion Dyslexia a sut i ymateb i anghenion y disgybl gyda phroblemau dysgu  penodol.

 

.Dyslecsia

Gwahaniaethu ar gyfer plant yn y dosbarth

Llyfryn a ddarparwyd ar gyfer cwrs AAA Cynnal.  Syniadau ymarferol i athrawon ar sut i wahaniaethu ar gyfer disgyblion sydd yn cael problemau gyda llythrennedd.

 

 

Gwahaniaethu

 

Sbardun i sgwrsio/
Sbardun i ysgrifennu

Llyfrynnau yn llawn o symbyliad gweledol i gael disgyblion i drafod cyn ysgrifennu.

 

Sbar1.jpg (10073 bytes)

Iaith 1 - 5

Deunydd gwahaniaethol  thematig a luniwyd gan Gyd-gysylltwyr mewn Hyfforddiant HMS AAA.

 

 

Iaith

 

Darllen a Deall

Esiamplau o ddeunydd a fyddai'n addas ar gyfer disgyblion AAA.

 

Darllen a Deall

 

Gwella Sillafu

Pecyn o gêmau a luniwyd yn sgil Prosiect Llythrennedd  Gwynedd 1997.

 

Gwella Sillafu

 

Dewch i sillafu

Pecyn o daflenni sydd yn seiliedig ar batrymau sillafu o 'Gam i Gam'. Bwriedir y taflenni ar gyfer disgyblion sydd gyda phroblemau dysgu penodol.  Byddent yn addas hefyd ar gyfer disgyblion a chanddynt broblemau sylfaenol gyda sillafu. 

Hefyd:  Dewch i Sillafu - Atodiad

Geiriadur personol ar gyfer disgyblion sydd yn cael trafferth gyda sillafu.

 

Dewch i Sillafu

Hwb Ymlaen

Pecyn o weithgareddau darllen, sillafu a.y.b. ar gyfer disgyblion gyda phroblemau dysgu penodol, ond sydd yn addas hefyd ar gyfer disgyblion sydd yn cael anawsterau cyffredinol.

 

Hwb Ymlaen

Am fwy o wybodaeth am y llyfrynnau uchod cysylltwch ag E. Annette Evans, Ymgynghorydd Anghenion Addysgol Arbennig Cwmni Cynnal, annettee@cynnal.gwead.cymru.org.