Defnyddio Profion Darllen yn Effeithiol.
___________________________________Yn ôl..

Rhaid bod yn glir ynghylch pa ddibenion addysgol sydd i'w cyflawni wrth benderfynu defnyddio profion.
Felly mae angen ystyried:

  • sut fydd y canlyniadau'n cael eu defnyddio i ffurfio barn ac i wneud
  • penderfyniadau?

  • pa fath o brofion fydd yn cynhyrchu'r canlyniadau a ddeisyfir?

Dibenion profion darllen yw gwneud un neu ragor o'r canlynol -

  1. rhoi gwybodaeth am fedrau presennol plant i'r athrawon sy'n eu derbyn;
  2. hysbysu athrawon dosbarth am safonau’r grwp y byddant yn ei addysgu;
  3. canfod lefelau cyrhaeddiad grwpiau blwyddyn;
  4. dangos pa ddisgyblion sy'n debygol o fod ag anawsterau dysgu;
  5. rhoi adborth strwythuredig am gynnydd ac am strategaethau disgyblion unigol.

Mae sawl math o brawf i'w gael ac mae dewis y math priodol yn dibynnu ar ba un o'r dibenion uchod sydd dan ystyriaeth yn eich ysgol.

  • prawf grwp a phrawf unigol,
  • prawf norm-gyfeiriol (sy'n caniatáu ystyried sgôr mewn perthynas â sgoriau eraill disgyblion o'r un oed) a phrawf maen prawf-gyfeiriol (sy'n canfod yr hyn y gall unigolyn ei wneud),
  • prawf diagnostig sy'n ceisio dangos pa agweddau o berfformiad disgybl sy'n gymharol wan.

Prawf unigol a ddefnyddir i asesu darllen Saesneg ym mhrofion y Cwricwlwm Cenedlaethol, ond defnyddir math o brawf grwp yn ychwanegol i brofi darllen Cymraeg yn CA2.

Gwneir defnydd eithaf helaeth o brofion norm-gyfeiriol, yn bennaf er mwyn canfod sut mae disgybl yn cymharu â disgyblion eraill o'r un oed ac er mwyn cael amcangyfrif o gynnydd tros gyfnod, e.e., blwyddyn. Y ffordd orau o wneud hyn yw trwy ddefnyddio sgoriau safonol a chanrannau, ac nid yn nhermau oedran darllen neu sillafu. Mae'n bwysig cofio mai amcangyfrif yn unig a geir o wir gyrhaeddiad wrth ddefnyddio profion o'r fath a dylid ystyried y canlyniadau fel cyfraniad i asesiad cyflawn o fedrau'r plentyn.

Dylid bod yn ofalus wrth gymharu canlyniadau gwahanol brofion. Dylid gochel rhag gwneud casgliadau o wahaniaethau tybiedig rhwng canlyniadau profion a rhai asesiadau'r Cwricwlwm Cenedlaethol gan nad yw cynnwys na ffurf safoni'r ddau ddull asesu'n caniatau cymhariaeth o'r fath.

Mae profion darllen y CC yn rhai eithaf soffistigedig. Mae profion CA2 yn profi gallu plant i adalw gwybodaeth mewn testun, i ganfod yr hyn sydd ymhlyg, i ddefnyddio tystiolaeth destunol ac i ymateb yn bersonol i’r testun.

Cymeradwyir y profion safonedig yn yr Atodiad. Maent oll yn samplo cywirdeb a dealltwriaeth darllen.

 

Strategaethau gweithredu

      1. Darparu, trwy gyfrwng HMS neu ymweliadau Hawl a Haeddiant, gyngor ar ddefnyddio profion i bwrpas -

  • ategu asesiadau safonol eraill
  • canfod medrau a gwendidau
  • canfod disgyblion sy'n debygol o gael anhawster gyda datblygu medrau llythrennedd er mwyn darparu cymorth cynnar iddynt, yn aml trwy gyfrwng Rhaglen Addysg Unigol.

     2. Sicrhau cysondeb yn y cyngor a roddir ar ddefnyddio profion norm-gyfeiriol.

 

ATODIAD – y profion safonedig a gymeradwyir.

Cymraeg

Enw a chyhoeddwyr

Ar gyfer oedran:

Math

Dibenion

(gweler 1 - 5 uchod)

Profion Glannau Menai, Cyd-Bwyllgor AAA Cywirdeb: 4½ - 10½ a phlant hyn sy'n ddarllenwyr gwan.

Dealltwriaeth:

4½ - 14

Unigol

1, 4, 5.

Gellir dadansoddi llithriadau er mwyn medru penderfynu sut i gynorthwyo'r disgybl unigol i ddatblygu medrau ymhellach.

Prawf Darllen

Grwp, Cyngor Abertawe

Yn bennaf ar gyfer Blwyddyn 2 ond fe ellir ei ddefnyddio i bwrpas sgrinio disgyblion isel eu cyrhaeddiad ym mlynyddoedd 3 i 6.

Grwp

1, 2, 3, 4.

 

Saesneg

Enw a chyhoeddwyr

Ar gyfer oedran:

Math

Dibenion

(gweler 1 - 5 uchod)

The Group Reading Test, NFER-Nelson Lefel 1: 6 - 12

Lefel 2: 9 - 14

Grwp

1, 2, 3, 4
The Suffolk Reading Test, NFER-Nelson 6-14 ar dair lefel

Grwp

1, 2, 3, 4.
Neale Analysis of Reading Ability,

NFER-Nelson

5 - 13

Unigol

5 yn bennaf