Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu
mewn perthynas â disgyblion Anghenion Addysgol Arbennig

____________________________________
Yn ôl..

Mae ar blentyn anghenion addysgol arbennig os oes ganddo anhawster dysgu sy’n galw am wneud darpariaeth addysgol arbennig.

Dyma’r anawsterau a enwir yn y Rhestr Argymhellion:

  • Anawsterau dysgu.
  • Anawsterau dysgu dwys neu ddwfn a lluosog.
  • Anawsterau dysgu penodol e.e. Dyslecsia.
  • Anawsterau emosiynol ac ymddygiadol.
  • Anableddau corfforol.
  • Nam ar y synhwyrau - anawsterau clywed ac anawsterau gweld.
  • Anawsterau lleferydd ac iaith.
  • Anhwylderau meddygol.

Gyda’r anawsterau hyn disgwylir fod darpariaeth addysgol arbennig yn cael eu gwneud yn yr ysgol neu gan yr Awdurdod Addysg Lleol. Bydd y darpariaethau hyn wedi eu nodi yn y Cynllun Addysg Unigol.

Un adnodd a all fod o gymorth gwerthfawr i ddisgyblion A.A.A. yw’r defnydd o Dechnoleg Gwybodaeth fel darpariaeth addysgol arbennig.

Sut y gall fod yn adnodd gwerthfawr?

Anawsterau dysgu

  • Sicrhau mynediad i gwricwlwm eang a chytbwys.
  • Hybu cymhelliant i ddatblygu sgiliau iaith a rhif.
  • Cyfrwng ar gyfer gweithgareddau gwahaniaethol.
  • Ymarfer sgiliau mewn modd diddorol e.e. gemau.
  • Defnydd o lyfrau sy’n siarad fel cymorth i’r darllen.Defnydd o brosesydd geiriau sy’n siarad.
  • Gwella iaith ysgrifenedig drwy raglenni drilio ac ymarfer.
  • Addysgu ac atgyfnerthu sgiliau llythrennedd megis
         
  1. sgiliau cyn darllen
  2. cydweddu
  3. dilyniannu
  4. arsylwi
  5. cof
  6. gwahaniaethu gweledol
  7. ymwybyddiaeth ffonolegol
  8. strwythur brawddegau
  9. darllen amrywiaeth o destunau
  10. adeiladu geirfa
  11. adennill gwybodaeth o amrywiaeth o destunau.
  12. ysgrifennu amrediad o destunau.


Anawsterau dysgu dwys neu ddwfn a lluosog

  • Dull o gael disgybl i weithio yn weddol annibynnol.
  • Gallu defnyddio offer sydd wedi ei addasu ar eu cyfer.

     
Anawsterau dysgu penodol.

  • Cymhelliant i ennill medrau penodol ar gyfer darllen, sillafu ac ysgrifennu.
  • Cynorthwyo gyda drafftio gwaith - fel bod y disgybl yn canolbwyntio ar y cynnwys yn gyntaf.
  • Cynorthwyo disgyblion sydd gyda llawysgrifen flêr, fel eu bod yn gallu ennyn balchder yn eu gwaith.
  • Modd iddynt gywiro gwaith eu hunain - Gwiriwr sillafu.
  • Gall y defnydd o raglenni clywedol gynorthwyo disgyblion sydd yn cael trafferthion i gofio.

   
Anawsterau emosiynol ac ymddygiadol

  • Cymhelliant ac ysgogiad i’r disgybl.
  • Gall TGC wneud tasgau yn haws i’w cyflawni.
  • Gall TGC ddarparu canlyniadau boddhaol

     
Anawsterau corfforol

  • Gall TGC fod yn angenrheidiol i gynnig mynediad i’r cwricwlwm i rai disgyblion.
  • Gall gynorthwyo gyda gwaith ysgrifenedig.
  • Gall fod yn gymorth i gyfathrebu.
  • Rhestr geiriau a chyfleusterau rhagdybio geiriau.

  
Nam ar y synhwyrau

a)  anawsterau clywed

  • cyfleusterau prosesu geiriau
  • rhaglenni peintio a meddalwedd eraill sy’n defnyddio pwer gweledol y cyfrifiadur.

b)  anawsterau gweld

  • Gellir newid y lliwiau i fod o gymorth i’r golwg.
  • Gellir newid maint y ffont.
  • Defnyddio syntheseinyddion lleisiau.
  • Defnyddio meddalwedd sydd yn addas ar gyfer disgyblion rhannol ddall.

    
Anawsterau lleferydd ac iaith

  • Gweithgareddau i ddatblygu geirfa, cystrawennau a brawddegau.
  • Gwella cof plentyn trwy ddefnydd o brosesydd geiriau sy’n siarad.
  • Cymhelliant i ysgrifennu.
  • Recordio llais y plentyn a thrwy hynny atgyfnerthu gwaith a osodir gan Therapydd Iaith a Lleferydd.
  • Gyda disgyblion ag anghenion dwys gall fod yn gymorth i weithredu’r cwricwlwm datblygiadol ac i gynorthwyo gyda’r disgyblion sydd yn gweithio tuag at lefel 1.
  • Defnyddio rhaglenni peintio a meddalwedd sy’n hybu cyfathrebu a hunanfynegiant.

Yn ychwanegol at yr anawsterau a nodwyd rhestrir disgyblion galluog iawn fel disgyblion ag anghenion addysgol arbennig. Gellir defnyddio TGC fel adnodd buddiol i ymestyn plant galluog iawn.

  • Gellir ei ddefnyddio fel adnodd ymchwiliol.
  • Gosod tasgau gwahaniaethol.
  • Gwaith annibynnol ymestynnol.

 

GWYBODAETH AM FEDDALWEDD TECHNOLEG GWYBODAETH AR GYFER A.A.A.

 

FUZZBUZZ

Meddalwedd ar gyfer disgyblion sydd yn cael trafferthion gyda’u darllen. Byddai hon yn gallu bod yn ran pwysig o Raglen Addysg Unigol. Mae’n raglen sydd wedi ei rannu yn gamau bychain gan ddechrau gyda chydweddu llun a llun, gair a gair, gair a llun. Mae’n anodd defnyddiol i adolygu geirfa newydd. Yn ychwanegol at hyn fe geir rhaglen ymestynnol ‘Fuzzbuzz Adventure’ ar gyfer disgyblion mwy galluog sydd gyda phroblemau dysgu penodol – Dyslexia.

WELLINGTON SQUARE (7 – 11 oed + Disgyblion A.A.A. C.A.3)

[Semerc] [ Thomas Nelson Reading Materials]

Mae’r meddalwedd yma ar gyfer disgyblion sydd yn cael problem gyda’u darllen. Mae’n seiliedig ar 5 lefel wahanol o Lefel 1 – O.D. llai na 6 oed i Lefel 5 – O.D. 8.5 – 9 oed.

Wrth weithredu’r rhaglen fe roddir 3 cyfle i’r disgybl. Gall hyn fod yn gymhelliant i’r plentyn ac yn fodd i’r plentyn brofi llwyddiant.

Mae’r rhaglen hon yn glywedol ac felly yn ddefnyddiol iawn i ddisgyblion sydd yn cael trafferthion gyda’u darllen.

Gall fod yn ddiagnostig e.e.gall restru pa lythrennau sydd yn creu trafferthion.

Mae’n ddefnyddiol ar gyfer bod yn rhan o Raglen Addysg Unigol e.e.

Cyrhaeddiad y disgybl ar hyn o bryd: methu adnabod llythrennau

Camau bychain i gyrraedd y targed:

  • Gallu adnabod llythrennau
  • Rhoi trefn ar lythrennau
  • Adnabod swn llythrennau
  • Dysgu ffonic
  • Adnabod llafariad mewn geiriau
  • Gallu rhoi lluniau mewn trefn
  • Gallu rhoi geiriau mewn trefn
  • Darllen a ddeall ar wahanol lefelau

Gyda’r meddalwedd yma fe ellir archebu cyfres o lyfrau a ffeil waith.

   
MAXIMANIA

Meddalwedd ar gyfer disgyblion A.A.A. C.A.1/C.A.2

Gellir plethu’r gwaith i Raglen Addysg Unigol.

Targedau’r rhaglen yw:

  • Cydweddu lluniau
  • Cydweddu llythrennau
  • Gem geiriau curo dau…
  • Cyfannu – geiriau, ymadroddion, brawddegau
  • Darllen a ddeall ar wahanol lefelau.

   
MAX AND THE MACHINE [YITM]

Mae’r CD ROM yma wedi ei chynllunio i gefnogi disgyblion i ddatblygu sgiliau darllen. Rhennir y ddisg i 6 rhan gyda gwahanol weithgareddau, adnoddau a storiau i gynorthwyo disgyblion i ddidoli, i gydweddu ac i allu rhoi trefn ar ddilyniannau.


OXFORD READING TREE (C.A.1 a disgyblion A.A.A. C.A. 2)

Mae’r meddalwedd yma yn gallu bod yn anodd defnyddiol ar gyfer disgyblion A.A.A. Gellir ei defnyddio fel dull o gael cefnogaeth ychwanegol i gael plentyn i wrando. Mae’n cael ei defnyddio fel dull o asesu pa lythrennau mae’r disgyblion yn eu hadnabod.

Mantais y rhaglen hon yw ei bod yn:

  • Gwella darllen annibynnol disgyblion
  • Adnodd defnyddio i helpu darllen
  • Cael ei defnyddio ar gyfer unigolyn neu ar gyfer gwaith pâr
  • Cynorthwyo plentyn i adeiladu brawddegau.

 
GAMZ

Mae’n raglen ddefnyddiol sydd yn cynnwys pob math o gêmau cardiau a chwileiriau perthnasol ar gyfer disgyblion sydd gyda phroblemau dysgu penodol dyslexia. Gellir ei defnyddio hefyd ar gyfer disgyblion sydd angen cymorth i ddysgu sillafu.

      
CREATIVE WRITER
(Microsoft) – Nodir bod Llawlyfr ar gael

Meddalwedd defnyddiol ar gyfer disgyblion A.A.A. i ddysgu sgiliau creu ac ymchwilio ar gyfer datblygu ysgrifennu mewn ffordd ddiddorol.

ADNODDAU SHERSTON

  • Talking Stories
  • The Talking Animated Alphabet a,b,c

Mae’r meddalwedd yma yn dysgu disgyblion i ddysgu synau llythrennau, i adnabod llythrennau, i gydweddu swn llythyren a siap.

XAVIER – (Uned Dyslexia Bangor)

Adnoddau gwerthfawr ar gyfer disgyblion gyda phroblemau dysgu penodol – Dyslexia.

Ceir disg Gymraeg hefyd ‘Soapbox’.