Addysgu Uniongyrchol
______________________________________ 
Patrwm ar gyfer gwers effeithiol
Maen bwysig iawn nad yw disgyblion yn symud o
sbardun cychwynnol y wers i dasg ysgrifenedig yn rhy sydyn. Mae angen cadarnhau y gwaith
gydar disgyblion cyn iddynt ymgymryd ar brif dasg.
| CAM 1: Esbonion gryno wrth y
plant beth yw nod y sesiwn |
| CAM 2: Cyflwyno sbardun |
Cyd-ddarllen Cyd-edrych
Cyd-wrando gan fwynhau y gwaith |
| CAM 3: Gosod tasg fer
ymarferol (llafar) - tasg o 5-10 munud Prif bwrpas y dasg hon
yw:
Gorfodi y plant i ailystyried cynnwys y sbardun
a sicrhau eu bod wedi ei ddeall
- Troedior ffordd ar gyfer y brif dasg
|
Y disgyblion i weithio yn llafar mewn
grwpiau neu barau Adrodd yn ôl ir dosbarth cyfan ar eu
canfyddiadau |
| CAM 4: Edrych yn benodol
ar un agwedd or sbardun fydd yn gymorth uniongyrchol ar gyfer y brif dasg; bydd hyn
yn rhoi cyfle ir disgyblion feddwl |
Y disgyblion i weithio yn llafar eto mewn
grwpiau neu barau Adrodd yn ol ir dosbarth cyfan ar eu
canfyddiadau |
| CAM 5: Gosod y brif dasg
gan ddefnyddio y sbardun neu ddetholiad ohono fel model |
Awgrymir ir gwaith hwn fod ar dair
haen wahaniaethol. Rhaid cyflwyno meini prawf wrth osod y dasg |
| CAM 6: Rhoi llwyfan i
waith plant cyfle i ad-fyfyrio ar waith ei gilydd |
Ysgrifennu: Plant yn darllen eu gwaith.
Awgrymu dau neu dri pheth sydd yn dda yn y gwaith
Awgrymu un agwedd i wella eto
Llafar - adrodd yn ôl/perfformio eu gwaith |
PATRWM O WERS BOSIB
1. Gweithgaredd/Gwers enghreifftiol - CA1
Cam 1
Nod y sesiwn: codi ymwybyddiaeth disgyblion o farddoniaeth,
âr prif nodweddion syn berthnasol i benillion.
Cam 2
Cyflwynor sbardun - Fuoch chi rioed yn
morio?
ei ddarllen o siart a baratowyd;
ail-ddarllen; gofal am oslef/mynegiant;
cael plant i gyd-ddarllen; a chydganu.
Cam 3
Trafod nodweddion yn dorfol - e.e. gofyn ir plant beth maen nhwn feddwl
or pennill... ydyn nhw wedi ei chlywed or blaen?... ydyr pennill wedi ei
gosod yn union fel stori?... oes rhywun yn gallu ei hadnabod fel pennill yn hytrach na
stori?... tynnu sylw at swn tebyg gan gyflwynor syniad (ar gair) o
odl.
Cam 4
Cyflwyno ail hwiangerdd - Mi welais Jac y Do - trwy ei darllen, eto yn
ystyrlon a gofalus.
Cam 5
Gosod gweithgareddau - trefniant grwpiau/parau, tair haen-gallu
Meini prawf llwyddiant - gallu adnabod nodweddion penillion, gallu
cyfannu ystyr
a) plant i drafod a nodi yr hyn syn
1) debyg
2) wahanol yn y ddwy hwiangerdd; gallant sôn am linellau; atalnodi;
odlau; doniolwch.
b) copïau o ddwy hwiangerdd/dau bennill newydd eto
ir plant, gyda rhai geiriau wedi eu dileu;
trafod beth allair geiriau coll fod, a pham e.e.
Bachgen bach o Felin y Wig,
Welodd o rioed _____ o gig
Gwelodd falwen ar y _____
Cipiodd ei gap a _____ i ffwrdd.
Dau gi bach yn mynd ir coed
Esgid newydd am bob _____
_____ gi bach yn dwad adre
Wedi _____ un oi sgidie.
c) Gweithio mewn parau i aildrefnu llinellau a gymysgwyd er mwyn
ailosod y ddwy hwiangerdd uchod.
Trwy gydol y gweithgareddau bydd yr athrawes yn cefnogi, yn
annog, yn awgrymu, yn herio, yn cadarnhau, yn holi ...
Cam 6
Sesiwn dorfol syn rhoi cyfle ir plant :
a) ddweud wrth eraill am yr hyn a wnaethant
b) gadarnhau yr hyn a ddysgwyd.
ADDYSGU UNIONGYRCHOL
Thema : Tai a
Chartrefi
Sbardun : Chwilio
Cartref (stori allan o Campiaith I, tud 98 - 100)
Disgyblion blwyddyn 3 a 4
| |
Gwers
enghreifftiol |
| |
Trefniadaeth |
|
| Cam 1 |
Dosbarth Cyfan (DC) |
Ysgrifennu darn
disgrifiadol am gartref dieithr. (llinyn C.C. personol a
dychmygus) |
| Cam 2 |
D.C. |
Cyd-ddarllen Chwilio Cartref
- Yr athrawes i gynnig darlleniad graenus, bywiog or stori. Gadael ir
disgyblion ddilyn y testun, gwrando a mwynhau. |
| Cam 3 Gosod tasg fer er mwyn cynhesu at y testun |
Gwaith pâr |
Helfa wybodaeth Ar y bwrdd gwyn/taflunydd, yr athrawes i nodir cwestiynau canlynol :
1. Sawl anifail gwahanol gaiff ei enwi yn y stori?
2. Sawl cartref y maer ysgafarnog yn ymweld ag o?
3. Beth ywr enw ar gartref llwynog?
4. Pam doedd yr ysgafarnog ddim yn hoffi cartref y gwningen?
5. Beth oedd yn aros am yr ysgafarnog wrth enau cartref y llwynog?
Tasg y disgyblion yw cydweithio gyda phartner i ddod o hyd ir
atebion. Dylid cyfyngu ar yr amser ymchwilio i 7 munud, ac fe ellid ei weithredu gydag
elfen o gystadleuaeth ... Am y cyntaf i ddod o hyd ir pum ateb cywir
cwestiynau hyn ...
Tasg lafar yw hon, ond gall y disgyblion nodi rhai geiriau ar bapur
i helpur cof.
Ar ddiwedd y 7 munud dylid gwahodd y disgyblion i adrodd ar eu
canfyddiadau - gweithgaredd dosbarth cyfan. |
| Cam 4 Sylwin benodol ar un agwedd or sbardun
- cyflwynor model |
D.C. |
Ar y taflunydd yr athrawes
i ddangos y disgrifiadau or ddau gartref Arweiniwyd
hi drwy dwnnel cul i mewn i ystafell dywyll o dan y ddaear. Wrth fynd drwyr twnnel
syrthiai pridd a cherrig mân ar ei chefn, a theimlain annifyr iawn. Ni allai weld
fawr o ddim, ac ar ôl bod yno am rai munudau hiraethai am gael mynd yn ôl ir rhos,
ller oedd awel a haul a golau dydd.
Aeth yr ysgyfarnog i mewn ir twll. Fei teimlodd ei
hunan yn cwympo am dipyn. Yna, disgynnodd ar lawr wedi ei orchuddio â dail. Wrth edrych i
fyny gallai weld yr awyr trwyr brigau. Ond deuai aroglau rhyfedd iw ffroenau
yn awr, a dechreuodd deimlo braidd yn sâl. Yn waeth na hynny, teimlodd ryw bryfed mân yn
cerdded dros ei chorff.
Yr athrawes i arwain y disgyblion i sylwi ar arddull y darnau drwy:
1. ofyn iddynt ystyried pa rai or pum synnwyr y cyfeirir
atynt. Pawb i sylwi ac ystyried, rhoi cyfle iddynt adrodd yn ôl trwyu henwi.
2. eu hatgoffa o beth yw berf. Gofyn iddynt gasglu rhestr or
berfau syn gorffen efo ____ai h.y. syrthiai; teimlai; ni
allai; hiraethai; deuai; |
| |
Pâr |
Holi beth
syn gyffredin yn y rhestr hon (h.y. ____ai). Esbonio ar y bwrdd gwyn fel mae : ffurf gryno yr un fath â ffurf gwmpasog
syrthiai - roedd yn syrthio
teimlai - roedd yn teimlo
Gosod tasg fer, gan ofyn iddynt gydweithio â phartner i ysgrifennu
ar damaid o bapur beth yw ffurf gryno/gwmpasog y berfau canlynol :
|
| Ffurf gryno hiraethai ______________
ni allai ______________
gwelai ______________ |
Ffurf gwmpasog ___________ roedd hi'n clywed
___________ roedd hi'n siarad
__________ roedd o'n cerdded |
| Cam 5 |
Unigol |
Gofyn ir
disgyblion ddychmygu mai trempyn digartref ydynt yn ymweld âu cartref nhw. Y dasg
ydy ysgrifennu disgrifiad or cartref, gan ddilyn y canllawiau canlynol : 1. Cofiwch ddefnyddioch synhwyrau
2. Peidiwch â bod ofn efelychu arddull y darnau disgrifiadol
or stori hon
3. Ceisiwch ddefnyddio ffurf grynor ferf e.e. teimlai o
leiaf ddwy waith.
4. Cofiwch atalnodich gwaith yn ofalus.
(Dymar meini prawf) |
| Cam 6 Rhoi llwyfan, ac arfarnu (yn ôl y meini prawf). |
D.C. |
Gofyn i rai
unigolion (hyd at dri) ddarllen eu gwaith ar goedd. (Dylid sicrhau darlleniad gan y
disgyblion galluog ar rhai is eu gallu). Wedi pob
darlleniad gofyn i ddisgyblion drafod :
a) beth oeddent yn ei hoffi yn y darn;
b) pa mor llwyddiannus oedd y gwaith yn ôl y meini prawf;
c) beth fyddair un peth y byddent yn awgrymu ei newid
er mwyn ei wella?
Beth fyddair ffurf y bydden nhwn ei gynnig? |
Byddai disgwyl ir tasgau hyn gael eu cynnal dros ddwy neu hyd yn oed dair gwers.
|