DARLLEN
- Amcanion a Bwriadau
______________________________________
Mewn byd lle mae llythrennedd yn holl-bwysig, a statws pobl mewn
galwedigaeth ac o fewn cymdeithas yn ddibynnol ar ei feistroli, mae'r ysgol hon yn
cydnabod ei chyfrifoldeb tuag at feithrin plant sy'n gallu darllen ac sy'n awyddus i
ddarllen.
At hynny rydym yn sylweddoli mai'r gallu i ddarllen yw'r allwedd i'r
drws ym mhob agwedd o'r Cwricwlwm, a'i fod yn galluogi plant i gasglu gwybodaeth, ac i
ddyfnhau eu dealltwriaeth.
Ysgol fydd hon, felly, fydd yn gyson annog plant i ymbleseru mewn
byd llyfrau - boed y llyfrau hynny yn ffuglen neu'n ffeithiol. Golyga hyn y bydd llyfrau
amrywiol, cyfoes ac apelgar yn rhan o adnoddau pob dosbarth, a'r llyfrau hynny yn cael eu
harddangos yn chwaethus a'u defnyddio yn bwrpasol.
Plant Ifanc
Yn nosbarthiadau'r plant bach byddwn yn barod i adeiladu ar brofiad
cyn-ysgol y plant, i feithrin parch at lyfrau ac i arddangos enghreifftiau o'r gais
ysgrifenedig ar furiau'r dosbarth.
O safbwynt y deunyddiau bydd pwyslais amlwg ar yr elfen storļol, a
chyfleoedd i'r plant uniaethu ā chymeriadau eu llyfrau darllen. Fe all mai ar ffurf
cyfresi/cynlluniau darllen y bydd llawer o'r llyfrau cynnar, ond fe fyddant yn cynnwys
storļau gwerth-eu-dweud a gwerth-eu-clywed. Bydd llawer o'r deunydd gorau i'w weld yn y
toreth o lyfrau sy'n cael eu cyhoeddi y dyddiau hyn. Bydd y sylw a roddir i hwiangerddi a
chaneuon, i storļau o waith y plant eu hunain ac i adnoddau darllen-a-gwrando yn gymorth
i blant gael y gynhysgaeth lawn o ddeunydd pwrpasol. Yn ogystal ā'r deunydd mewn llyfrau
bydd plant yn dod i weld print ar sgrin cyfrifiadur. Bydd yr adnoddau hyn oll yn cael eu
darparu yn y Gymraeg a'r Saesneg, ac fe ystyriwn y gall oedolion eraill gael eu gwahodd
i'r dosbarth i hybu ac annog y plant yn eu gweithgareddau darllen.
Plant Hyn
Fel y bydd y plant yn datblygu ac aeddfedu fe fyddwn yn eu hannog i
agor y drws yn lletach o dipyn i beth, fel y cānt fwy o brofiadau amrywiol. Bydd y
llyfrau o'u cwmpas yn ehangach eu hystod ac yn fwy amrywiol eu cynnwys. Byddwn yn eu
hyfforddi i ddefnyddio llyfrgell-gyfair yr ysgol yn arbennig trwy eu cynefino ā
thechnegau llyfrau ffeithiol fel y gallant feistroli'r uwch-sgiliau darllen. Trwy hyn fe
fyddant yn lledu gorwelion eu darllen ac yn hwyluso'r ffordd i well dealltwriaeth o
wahanol destunau - rhai ohonynt yn codi o themāu'r dosbarth, eraill yn codi o'u
diddordebau hwy eu hunain.
Byddwn yn eu hannog i drafod eu llyfrau, o safbwynt plot a chymeriad
stori, arddull awduron, ac ambell dro byddant yn ysgrifennu adolygiad i annog plant eraill
i ddarllen y llyfrau.
Er mai darllen yn ddistaw, gan fewnoli ystyr y print, y byddwn ni
oedolion, bydd yn ofynnol i blant ddangos cynnydd yn eu rhuglder trwy 'ddarllen yn uchel'.
Byddant hefyd yn cael cyfleoedd i ddarllen yn gyhoeddus e.e. wrth baratoi at wasanaeth
boreol, wrth gyflwyno hoff ddarn o farddoniaeth ac wrth ddarllen deialogau o'u gwaith eu
hunain.
Ceisiwn annog y rhieni i ymddiddori yn ymdrechion plant a'u llyfrau,
a byddwn innau fel athrawon yn 'gwneud ffys' o'r llyfrau a ddygir o'r cartrefi i'r ysgol. |