LLAFAREDD - Amcanion a Bwriadau
______________________________________ Yn ôl..

Mae'r ysgol hon yn rhoi pwyslais mawr ar ddatblygu llafaredd plant gan adeiladu ar yr hyn a feddant pan ddônt i'r ysgol yn gyntaf. Credwn os y datblygwn famiaith y plentyn i'r eithaf bydd yr ail iaith yn cael ei chroesawu gan y rhieni. Rhoddir pwyslais felly ar feithrin sgiliau cyfathrebu yn Gymraeg ac yn Saesneg gan sicrhau amryw o gyfleoedd i blant drafod gyda'i gilydd, gyda staff yr ysgol a chydag aelodau o'r gymued leol.

Ceisiwn roi cyfle i'r plant gyfathrebu hefo pobl, a phlant eraill, sydd ag acenion ac efallai tafodiaith gwahanol iddynt hwy. Manteisiwn, felly, ar y cyfle i drafod sut mae tafodieithoedd iaith yn gallu swnio'n wahanol ac eto'n cynnwys yr un geiriau, sef, Acen, a sut mae'r un ystyr yn cael ei greu mewn geiriau gwahanol, sef Tafodiaith.

Yn eu blynyddoedd cynnar, bydd byd y plant yn troi o gwmpas eu cyfoedion ac oedolion sy'n agos atynt yn yr ysgol, ond bydd eu "cynulleidfa" yn ehangu wrth iddynt dyfu, er enghraifft pan fyddant yn:

*danfon negeseuon o gwmpas yr ysgol
* cymryd rhan mewn Gwasanaethau
* cyflwyno gwybodaeth o flaen plant eraill
* perfformio barddoniaeth neu stori
* mynegi barn ar fater o bwys i'r grwp neu ddosbarth
* croesawu ymwelwyr i'r ysgol
* gwneud y diolchiadau ar ddiwedd cyflwyniad
* ateb y ffôn yn achlysurol

Anelwn at feithrin digon o hyder yn y plant i'w galluogi i drafod hefo unrhywun mewn nifer o wahanol sefyllfaoedd, gydag ymwybyddiaeth o'r math o iaith sy'n addas yn y sefyllfaoedd hynny. Disgwyliwn y bydd y plant yn gallu cyfathrebu mewn iaith safonol erbyn diwedd eu cyfnod yn yr ysgol - pan fydd yr achlysur yn gofyn am hynny - ond mae'n bolisi gennym i godi ymwybyddiaeth y plant o dafodieithoedd amrywiol, a cheisiwn feithrin goddefgarwch, ac os yn bosib, hoffter o amrywiaeth iaith yn ei holl agweddau.

Bydd y bri a roddwn ar lafaredd yn fodd i ddatblygu'r gweddau darllen ac ysgrifennu, gan mai trwy gyd-adwaith y tri modd gobeithiwn ddatblygu medrau ieithyddol, e.e.

* ceisiwn wella ysgrifennu'r plant drwy ganiatau cyfle i drafod cyn, ac ar ôl y cyfansoddi, a sicrhau ymateb llafar ar ôl yr ysgrifennu

*drwy siarad am lyfrau, gwrando arnynt yn cael eu darllen yn rheolaidd, a'u trafod, credwn y bydd darllen yn dod yn rhwyddach i'r plant

* wrth drafod geiriau - eu tarddiad a'u patrymau - bydd y sillafu yn datblygu.

Yr ydym, fel staff, yn ymwybodol mai trwy fod yn wrandawyr gofalus ac amyneddgar ein hunain y byddwn yn datblygu'r sgiliau hyn yn ein plant. Byddwn yn meithrin y sgil o wrando, gan roi lle i'r Stori Lafar, ac i ddarllen llenyddiaeth estynedig i'r plant yn eu dosbarthiadau. Byddwn yn ymestyn y cyfnod "gwrando" o ddosbarth i ddosbarth, ac yn ceisio sicrhau gwrandawiad gan ddewis ein deunydd yn ofalus. Bydd y plant yn ymateb ar lafar mewn gwahanol ffyrdd i lenyddiaeth, drwy chwarae rôl efallai, drwy drafod/rhagfynegi/damcaniaethu, neu drwy gyd-weithio ar dasg sy'n seiliedig ar y darn a ddarllenwyd iddynt.

Ceisiwn fod yn ymwybodol o bwysigrwydd llafaredd ar draws y cwricwlwm: er enghraifft:

* gan sicrhau cyfle i blant fynegi eu dealltwriaeth o bwnc fel Mathemateg
*i gydymdeimlo â chymeriad mewn Hanes neu ddrama
* i ddatrys problem mewn Gwyddoniaeth
* i gyd-gynllunio mewn Technoleg
* i roi trefn ar eu meddyliau, i wrando a cheisio deall safbwyntiau plant eraill mewn Addysg Grefyddol

Ceisiwn gynllunio amser ar gyfer tasgau siarad pwrpasol yn rheolaidd ym mhob dosbarth, a chadwn mewn cof ein bod ni yn fodel o siaradwr, a gwrandawr, i'r plant yn feunyddiol.

Credwn fod datblygiad llafaredd yn amlygu ei hun fel a ganlyn:

1 Bod plant yn gallu gwrando:

* am gyfnodau sy'n cynyddu yn eu hyd
* gan ddangos dealltwriaeth o'r hyn sy'n cael ei ddweud - drwy nodio e.e
* gan fewnoli yr hyn a glywant ac ymateb yn briodol
* gan gofio e.e. cyfarwyddiadau sy'n cynyddu yn eu cymhlethdod

2 Bod y plant yn gallu siarad:

* yn eglur gan ynganu'n glir a chroyw
* yn hyderus gan fwynhau sgwrsio/cyfarwyddo/egluro/mynegi barn ac yn y blaen
* gan ddefnyddio geirfa a chystrawen sy'n fwy cymhleth
* gan ddefnyddio iaith lafar briodol ar gyfer pwrpasau a chynulleidfa amrywiol
* gan ddangos ymwybyddiaeth o wrandawr: drwy roi trefn ar eu sgwrs, egluro wrth fynd ymlaen, ail-adrodd er mwyn effaith ac yn y blaen.

Hyderwn trwy hyn oll, bod llafaredd yn cael lle teilwng yn yr ysgol hon.