YSGRIFENNU - Amcanion a Bwriadau
______________________________________ Yn ôl..

"... a writer's intention is prior to his needs for techniques."

Yn naturiol iawn fe fydd i Ysgrifennu le canolog yng nghwricwlwm yr ysgol hon. Wedi'r cyfan dyma ydi'r wedd gyhoeddus ar gyfathrebu, a dyma wedd sy'n gallu galluogi'r plentyn i arddangos yr hyn y bu'n ymwneud ag ef ar draws y cwricwlwm. Yn amlach na pheidio mae plant yn cofnodi eu profiadau a'u gweithgareddau, ac yn dangos eu dealltwriaeth o gysyniad a'u gwybodaeth o ffeithiau trwy ysgrifennu.

Byddwn yn ymwybodol, hefyd, fod ysgrifennu yn eu galluogi i roi trefn ar eu meddyliau - ei fod yn fodd i ddysgu yn ogystal a bod yn fodd i brofi'r hyn a ddysgwyd yn y meysydd cwricwlaidd. Golyga hyn fod athrawon yr ysgol hon yn ymwybodol o wahanol ffwythiannau ysgrifennu -

i gofnodi
i ddiddanu
i drosglwyddo gwybodaeth
i rybuddio
i ragfynegi
i fyfyrio

a bydd digon o gyfleoedd dros y cyfnodau allweddol, i blant 'hogi eu harfau' yn yr amrywiol fathau o ysgrifennu. Ynghlwm wrth hyn byddwn yn eu hannog i ystyried 'cynulleidfaoedd' gwahanol ar gyfer eu gwaith ysgrifennu.

Dywedwyd yn Adroddiad Bullock, 1975 ('A Language for Life'):

"We believe that progress in writing thoughout the school years shold be marked by an increasing differentiation in the kinds of writing a pupil can successfully tackle."

Byddwn yn ofalus, felly, i sicrhau fod cynnydd ym mhrofiadau ysgrifennu'r plant dros y blynyddoedd, a'u bod yn cael cyfle i feistroli ffurfiau o weld, astudio a thrafod esiamplau cyhoeddedig o'r ffurfiau hynny. Dengys hyn bwysigrwydd arddangos elfennau o lythrennedd gweladwy yn amgylchedd y dosbarth fel y gellir tynnu sylw yn barhaus at nodweddion ysgrifennu.

Gan fod agweddau (neu linynnau) gwahanol i ysgrifennu fe enghreifftir y math o weithgareddau y gellid yn rhesymol ddisgwyl i blant ymwneud â hwy dros wahanol gyfnodau eu haddysg.

* Cynhwysir, hefyd, ddalennau ychwanegol fydd yn ganllawiau inni fel athrawon ar gyfer agweddau pellach sy'n berthnasol i feithrin plant fel ysgrifenwyr, sef

'Ysgogi Plant i Ysgrifennu'

'Ymateb i Waith Ysgrifenedig'

'Drafftio'

'Sillafu'