Pigion
o Ganllawiau "Datblygu Ansawdd"
Cwmni Cynnal 1996
_______________________________
Yn 1996 fe gyhoeddodd Cwmni Cynnal (ar ran Awdurdod
Addysg Gwynedd a Môn) ddogfen ymestynnol yn trafod nodweddion ysgol effeithiol ar
modd y gellid sefydlu gweithdrefnau a fyddai yn hyrwyddo datblygiad ac yn sicrhau ansawdd.
Cyflwynir yma ddetholiad o rai or agweddau a drafodir yn y ddogfen ac yn arbennig y
rhai syn berthnasol i ddatblygiad Llythrennedd.
Cychwynnir gydar datganiad canlynol syn
nodi mai amcan sylfaenol y Gwasanaeth Addysg yw:
Sicrhau addysg o'r ansawdd orau bosibl ir holl
ddisgyblion, yn unol â'u hoedran, eu gallu au diddordebau/tueddfryd, er mwyn iddynt
dyfu'n bersonoliaethau llawn, datblygu ac ymarfer eu holl ddoniau au cymhwyso eu
hunain i fod yn aelodau cyfrifol o gymdeithas ddwyieithog.
Mae sefydlu rhaglen datblygu ansawdd yn allweddol
bwysig os yw'r nod uchod i'w gyrraedd.
Mae rhaglen datblygu ansawdd yn sicrhau :
ffordd o weithio sy'n rhoi cefnogaeth i ddatblygu agweddau rheolaethol a
chwricwlaidd ysgol;
cymorth ymarferol i gynnwys monitro
datblygiad ysgol a gwerthuso athrawon fel prosesau parhaus.
Amcanion
1. Sefydlu a gweithredu trefn o arfarnu
effeithiolrwydd y rhaglen waith a rheolaeth ysgol.
2. Gwireddu'r nod o drefnu cwricwlwm yr ysgol mewn
modd sy'n sicrhau dilyniant, datblygiad a chysondeb o ddosbarth i ddosbarth.
3. O ganfod cryfderau ac anawsterau, sicrhau bod yr
hyfforddiant mewn swydd a drefnir yn cyd-fynd ag anghenion athrawon unigol ac anghenion yr
ysgol.
4. Meithrin datblygiad proffesiynol y staff fel unigolion ac fel aelodau o dîm yr ysgol.
EGWYDDORION SYLFAENOL
Dylair broses fod yn un gadarnhaol,
adeiladol a chynhaliol, gyda'r pwyslais ar gydnabod llwyddiannau tra'n amlygur
agweddau sydd angen eu cryfhau.
Gwelir y gyfundrefn fel rhan annatod o'r
broses addysgol gyflawn ac yn greiddiol i Gynllun Datblygur Ysgol.
Dylai datblygu ansawdd fod yn gonsyrn i bob aelod or staff yn ogystal ag
ir corff llywodraethu.
Dylid ystyried y broses yn erfyn i ddatblygu
a chodi safonau cyflawniad disgyblion trwy wella ansawdd y dysgu ar addysgu.
Dylai pob aelod o'r staff gael rôl
gweithredol yn y broses.
Mae'n erfyn pwysig i gynorthwyo ysgolion i
ymateb i anghenion staff a rhieni ac i gynorthwyo cynllunio strategol ar gyfer y dyfodol.
RÔL Y CYDLYNYDD CWRICWLWM
Yn yr hinsawdd bresennol bydd effeithiolrwydd y
cydlynydd yn allweddol i sicrhau ansawdd a datblygiad ei m/faes yn yr ysgol. Nodir isod y
crynhoad a geir o gyfrifoldebaur cydlynydd.
1. Gwerthuso
Adolygu polisir ysgol
Gwerthuso effeithiolrwydd cynlluniau
2. Datblygiad strategol
Diweddarur datganiad polisi
Diweddarur cynllun gwaith/canllawiau
3. Gweithredu
Cefnogi gweithredu cynlluniaur ysgol
4. Rheoli cyllid ac adnoddau
Monitro datblygu a defnyddio adnoddau
Trefnu prynu adnoddau
5. Datblygu staff
Cynnig cefnogaeth a chyngor i athrawon unigol
Hybu dealltwriaeth athrawon or maes
Gweithio gydag unigolion ar lawr y dosbarth
Adnabod anghenion hyfforddiant athrawon
6. Monitro cynhaliol
Monitro gwaith plant
Monitro cynlluniau athrawon
Monitro ansawdd y dysgu ar addysgu trwy ymweld â dosbarthiadau
Arwain trafodaethau ar gyfer asesu safonau gwaith plant
7. Arweinydd
Datblygu arfer dda yn ei (d)dosbarth ei hun
Rheoli, cymell ac ysbrydoli eraill
8. Datblygiad personol
Gwybodaeth gyfredol yn y maes
Hysbys yn y datblygiadau diweddaraf
Mynychu cyrsiau
Cynrychiolir ysgol mewn cyfarfodydd
Taflenni Meini Prawf
Gellir defnyddior taflenni canlynol :
i) wrth gynnal awdit cychwynnol or ysgol gyfan
ii) gan athrawon unigol wrth arfarnu eu darpariaeth
ac ansawdd y profiadau a drefnir ar gyfer y plant
iii) mewn cyfarfodydd staff wrth
benderfynu pa agweddau o faes arbennig fydd ffocws y rhaglen datblygu ansawdd.
iv) wrth arsylwi mewn dosbarthiadau
CYMRAEG
Darllen CA1
| |
Angen
Ystyriaeth |
Derbyniol |
Sylwadau/
Tystiolaeth |
| A oes polisi a chynllun gwaith ar gyfer y
maes? |
|
|
|
| Ydi'r gwaith wedi ei sylfaenu ar y cynlluniau
hyn? |
|
|
|
| A oes cyfle ir
plant weithredu fel a ganlyn: |
| ymgyfarwyddo ag arwyddion, labeli ac enwau a
ddefnyddir yn y dosbarth; |
|
|
|
| datblygu gwybodaeth or wyddor; |
|
|
|
| darllen yn uchel; |
|
|
|
| darllen yn dawel ac ymgolli mewn llyfr; |
|
|
|
| gwneud defnydd or canlynol: llyfrau cyfair priodol
llyfrau geiriau
geiriaduron
data ar gyfrifiadur; |
|
|
|
| gwrando ar ddarlleniad stori a dilyn y print; |
|
|
|
| gwrando ar bobl eraill yn darllen a thrafod
cynnwys a darluniau y llyfrau; |
|
|
|
| dwyn storïau I gof, eu hailddweud au
cyflwyno mewn dramâu byrfyfyr; |
|
|
|
| trafod ac ymateb i storïau a cherddi; |
|
|
|
| trafod storïau a llyfrau gwybodaeth gydag
athrawon a chymheiriaid, gan ofyn ac ateb cwestiynau? |
|
|
|
CYMRAEG
Darllen CA2
| |
Angen
Ystyriaeth |
Derbyniol |
Sylwadau/
Tystiolaeth |
| A oes polisi a chynllun gwaith ar gyfer y
maes? |
|
|
|
| Ydi'r gwaith wedi ei sylfaenu ar y cynlluniau
hyn? |
|
|
|
| A oes cyfle ir
plant weithredu fel a ganlyn: |
| darllen ystod amrywiol o lyfrau, rhyddiaith a
barddoniaeth; |
|
|
|
| meithrin uwch-sgiliau darllen (darllen yn
graff, cip-ddarllen, llithr-ddarllen); |
|
|
|
| defnyddio llyfrau gwybodaeth a dogfennau; |
|
|
|
| dewis eu deunydd darllen eu hunain; |
|
|
|
| datblygu sgiliau darllen a chwilio, e.e.
defnyddio tudalennau cynnwys, mynegeion, teitlau penodau; |
|
|
|
| dod yn gyfarwydd â threfn llyfrgelloedd; |
|
|
|
| ystyried gwahanol fathau o lenyddiaeth a
datblygu chwaeth bersonol a hoffter at wahanol awduron; |
|
|
|
| cadw cofnod or llyfrau a ddarllenant a
chynnig sylwadau ar rai ohonynt? |
|
|
|
CYMRAEG
Ysgrifennu CA1
| |
Angen Ystyriaeth |
Derbyniol |
Sylwadau/
Tystiolaeth |
| A oes polisi a chynllun gwaith ar gyfer y
maes? |
|
|
|
| Ydi'r gwaith wedi ei sylfaenu ar y cynlluniau
hyn? |
|
|
|
| A oes cyfle ir
plant weithredu fel a ganlyn: |
| cyfathrebu ar bapur drwy ysgrifennu geiriau,
ymadroddion neu ddarnau byrion, amrywiol; |
|
|
|
| ysgrifennu ar gyfer cynulleidfaoedd gwahanol; |
|
|
|
| chwarae â geiriau drwy greu rhigymau,
penillion, cerddi a phosau; |
|
|
|
| ysgrifennu darnau syn cofnodi a
chyflwyno gwybodaeth ar draws y cwricwlwm; |
|
|
|
| trafod gwaith gydag athrawon a chymheiriaid; |
|
|
|
| gwella ansawdd yr ysgrifennu drwy drafod ac
ailddrafftio; |
|
|
|
| defnyddio llyfrau cyfeirio; |
|
|
|
| ysgrifennu ar y cyd; |
|
|
|
| gwella gwaith drwy roi sylw ir
canlynol: strwythur yr ysgrifennu
atalnodi sylfaenol
sillafu geiriau cyfarwydd
llawysgrifen?
|
|
|
|
CYMRAEG
Ysgrifennu CA2
| |
Angen Ystyriaeth |
Derbyniol |
Sylwadau/
Tystiolaeth |
| A oes polisi a chynllun gwaith ar
gyfer y maes? |
|
|
|
| Ydi'r cynllun gwaith wedi ei
sylfaenu ar y cynlluniau hyn? |
|
|
|
| A oes
cyfle ir plant weithredu fel a ganlyn: |
| ymateb i amrywiaeth o dasgau a
symbyliadau; |
|
|
|
| ysgrifennu yn y modd personol ac
yn ddychmygus; |
|
|
|
| ysgrifennu mewn ymateb i symbyliad
llenyddol, e.e. darn disgrifiadol ar ôl darllen cerdd, efelychu cerdd...; |
|
|
|
| ysgrifennu ar gyfer
cynulleidfaoedd gwahanol; |
|
|
|
| cyflwyno gwybodaeth, e.e.
adroddiadau, cofnodion, taflen wybodaeth, cylchgrawn, pamffledyn, papur newydd...; |
|
|
|
| mynegi barn a chyflwyno safbwynt; |
|
|
|
| ysgrifennun gywir gan roi
sylw i agweddau ar ramadeg, mynegiant ac arddull; |
|
|
|
| drafftio, ailddrafftio a golygu
testun; |
|
|
|
| trafod gwaith gyda ffrindiau ac
athrawon; |
|
|
|
| defnyddio geiriaduron, geirlyfrau; |
|
|
|
| gwella gwaith drwy roi sylw
ir canlynol: sillafu
atalnodi
llawysgrifen
cystrawen? |
|
|
|
|