Awgrymiadau ar gyfer gwella ansawdd
gwaith ysgrifennu
_______________________________
 Er mwyn datblygu gwaith
ysgrifennu plant bydd yn rhaid dechrau trwy ddadansoddir hyn y maent yn gallu ei
wneud eisoes. Y cam nesaf fydd eu cymell yn gyson i gynnwys y nodweddion datblygol
canlynol yn eu gwaith:
Enghreifftiau or frawddeg seml, ar un sydd fwyaf
cyfarwydd i blant, ywr canlynol:
Maer oen yn pori yn y cae.
Roedd llawer o ddynion yn gweithio ar y tir.
Cefais anrhegion diddorol ar fy mhen-blwydd.
Brawddegau syn dweud un peth ydyr rhain fel
arfer, ac, yn ôl trefn y gystrawen Gymraeg, y ferf syn cychwyn y frawddeg.
Datblygiadau posibl :
1. Maer cysyllteiriau a,
ac neu ond' yn caniatau i ni gael dau
gymal cydradd a dwy ferf.
Fe gyrhaeddodd yr ysgol yn hwyr ac fe
ymddiheurodd.
Rhedodd nerth ei draed ond fe gafodd ei ddal cyn
iddo gyrraedd y ty.
Mae plant ifanc iawn yn defnyddio llawer o
ac (gormod o lawer mewn rhai darnau lle nad oes atalnod llawn o gwbl!) tra
maen rhaid eu hannog yn gyson i ddefnyddio ond.
2. Mae ansawdd gwaith llafar ac ysgrifennu yn gwella wrth i
blant ddefnyddio cysyllteiriau syn creu brawddegau efo prif
gymal ac is-gymal :
Pan fyddai yn fawr dwi am fod yn
beilot.
Os bydd hin bwrw glaw chawn ni ddim chwarae ar y
cae.
Oherwydd fod angen symud y glo cafodd rheilffyrdd eu
hadeiladu.
Er i Mr Hughes ei rybuddio mi aeth dros y wal i nôl y
bêl.
Wrth gwrs, fe ellir newid y drefn a chadwr ystyr:
Dwi am fod yn beilot pan fyddai yn
fawr,
3. Nodwedd arall o frawddegau mwy aeddfed ywr defnydd
o ymadroddion bychan - yn ymwneud ag amser - un ai i gychwyn y frawddeg
neu oddi mewn iddi :
Fel arfer byddair Rhufeiniaid yn gosod baddonau
yn eu tai.
Mae gwylio Lerpwl yn chwarae yn rhoi pleser i mi bob amser.
Ambell dro fe fyddwn yn clywed y brain yn crawcian yn y
coed.
Daeth mwy o ddyfeisiadau yn raddol i helpur
gweithwyr.
4. Dyma arwain yn naturiol at briod-ddulliau,
sydd yn cyfoethogir brawddegau bob amser (ond iddyn nhw beidio cael eu
gor-ddefnyddio!) :
ymhen hir a hwyr âi ben yn ei blu wrth eu bodd
cyn bo hir cael a chael dros ben llestri
o dipyn i beth bob hyn a hyn ...
5. Yn gyffredinol mae plant yn ei chael yn anodd i
ddefnyddior gorffennol amherffaith, sef berfau yn diweddu ag
-ai neu ent, ond mae cyfansoddi brawddegau fel hyn yn sicr o wella
ansawdd yr ysgrifennu:
Byddai pobl Oes y Cerrig yn hela am eu bwyd ...
(yn hytrach na Roedd ...)
Gwyddai Siân yr ateb ond roedd hin rhy swil
iw ddweud o.
Arferair llongwyr dreulio misoedd hirion ar y
môr a byddent yn hiraethu am eu teuluoedd.
Dim ond trwy ddarllen deunydd da ir plant, a thynnu
eu sylw at bethau fel hyn, y deuant i ymglywed ag ymadroddi diddorol.
6. Yr un modd efor ffurf amhersonol - berfau
syn gorffen ag -ir a -wyd.
Yn aml fe ddeuir ar draws y ffurfiau hyn mewn testunau ffeithiol, syn tanlinellu pa
mor bwysig ydy hi i annog plant i ddarllen deunydd or math hwn :
Cynhyrchir nwyddau o bob math ar gyfer eu gwerthu yn y
farchnad
Adeiladwyd pontydd i groesir Fenai.
7. Nodwedd arall o ysgrifennu plant syn haeddu ei
datblygu ywr defnydd o adferfau. Maer rhain yn cryfhaur
gwneud (berfau) llawn cymaint ag y mae ansoddeiriau yn cryfhaur
pethau (enwau).
Dringodd yn ofalus o fodfedd i fodfedd.
Darllenais y nodyn yn frysiog cyn ei daflun ddifeddwl
ir tân.
Ar lefel mwy elfennol, wrth gwrs, y mae angen meithrin iaith
lafar o ansawdd dda. Hon, wedir cyfan, syn sail ir gwaith ysgrifennu.
Felly, mae hin bwysig gweithio yn ddyfal-gyson ar
ddileur gwendidau syn britho eu sgwrsio; gwendidau fel:
... am bod roedd on sâl ... ... mae hi wedi mynd ir
doctor ...
... lle mae on mynd i ... ... roedd nhw wedi ...
... nath fi weld o ddoe ...
* Nid enwir termau - fel prif gymal ac is-gymal -
syn angenrheidiol, eithr eu defnyddio.
Un dull syml o gael plant i ddefnyddio is-gymalau yw eu hannog i
lunio brawddegau syn cychwyn gyda :
Pan ... Os ... Wedi ...
Oni bai ... Pe ...
Fel y ...
Prin iawn ywr plant syn ysgrifennu fel hyn :
Mae mam, syn gweithio fel cogyddes yn yr ysgol, am
roir gorau iddi yr haf nesa.
Roedd hin daith flinedig, anodd, ond roeddwn yn
benderfynol o lwyddor tro hwn.
Nid mater o ddefnyddio geirfa gymhleth a dieithr yw
ysgrifennu gwell Cymraeg (neu Saesneg), ond mater o osod y geiriau bach a wyddom yn barod
yn y llefydd iawn.
Len Jones
|