Beth yw Darllen?

______________________________________ Yn ôl..

Ychydig iawn o lyfrau ar ddarllen sy’n dechrau gyda’r cwestiwn yma, gan fod y rhan fwyaf yn cymryd yn ganiataol fod pawb yn gwybod yr ateb. Os yw hynny’n wir pam dechrau dogfen fel hon gyda’r cwestiwn?

Mae dau reswm:

i) Am nad yw diffinio darllen yn waith mor hawdd ag y mae’n swnio.

ii) Am mai’r diffiniad o beth ydyw sy’n penderfynu sut y ceisir meithrin darllenwyr.

Y mae Geiriadur Prifysgol Cymru yn cynnig wyth diffiniad, Geiriadur Rhydychen ddeuddeg, ac y mae arbenigwyr dros y blynyddoedd wedi cynnig ugeiniau.

Nid dyma’r lle i groniclo hanes datblygiad yr ymgais i ddweud beth yw darllen, digon yw dweud bod y diffiniadau cynharaf i gyd yn pwysleisio mai proses fecanyddol yw darllen, mai mater ydyw o ddad-ddynodi, o wybod beth yw’r swn pan welir y symbol, o allu llefaru yr hyn a welir mewn print, boed lythrennau, eiriau neu frawddegau. Dros y blynyddoedd fe ddatblygodd diffiniadau newydd oedd yn newid y pwyslais o’r agwedd fecanyddol at y broses ymenyddol ac yn pwysleisio mai proses yn y meddwl yw darllen, ac mai rhan fechan o’r broses, er yn rhan gwbl hanfodol, yw’r agwedd fecanyddol.

Ond nid yw pethau mor syml â hynny chwaith gan fod y broses yn y meddwl a’r ffordd y mae’r meddwl yn gweithio yn gymhleth, ac fel y datblygodd ein hymwybyddiaeth o’r cymhlethdod hwn fe ddatblygodd diffiniadau cymhleth o’r hyn yw darllen, i gynnwys ymateb a dealltwriaeth ar ran y darllenydd, a’i allu i ddeall oherwydd cefndir o wybodaeth arbennig. I roi enghraifft syml: mae darllen llyfr am beiriant car yn broses wahanol i’r lleygwr na wyr ddim am geir o’i gymharu â’r peiriannydd. Yn ôl y diffiniad mecanyddol y tebyg yw fod y ddau yn gallu ei ddarllen, ond os pwysleisir y broses ymenyddol, dad-ddynodi y mae un, y llall sy’n darllen.

Gall y rhai sydd am wneud hynny ddarllen yn ehangach lyfrau yn y maes hwn, ond rhaid yma geisio cael hyd i’r diffiniad symlaf posibi sydd ar yr un pryd yn pwysleisio’r elfennau pwysicaf sydd mewn darllen. Y mae’r daflen hon yn seiliedig ar y diffiniad canlynol o beth yw darllen, ac y mae’r cyfan sydd ynddi yn ddarostyngedig i’r diffiniad isod:

"Darllen yw gwneud synnwyr o ‘r gair printiedig ".

Mae’n swnio’n syml, ond y mae’n cynnwys y cyfan. Ni ellir gwneud synnwyr o’r gair printiedig heb adnabod y gair, heb i’r ymennydd allu derbyn, drwy’r llygaid, y negeseuon a ddaw oherwydd siap a ffurf. Felly mae agweddau mecanyddol y broses yn y diffiniad. Ond ni ellir gwneud synnwyr o brint heb fod y broses ymenyddol yn gweithio, heb fod yna feddyliau a gwybodaethau sy’n ymateb i’r hyn a ddarllenir. Nid yw mynd at amserlen bysus, darllen yr wybodaeth sydd arno a methu canfod pryd mae’r bws nesaf yn gadael yn darllen mewn gwirionedd, nid yw’n cael ystyr o brint, dad-ddynodi’n unig ydyw. Ond os canfyddir amser y bws nesaf, dyna ddarllen gan fod y darllenydd wedi gwneud synnwyr o ‘r gair priritiedig.

Fe welir ar unwaith felly fod i’r diffiniad hwn ei oblygiadau cyn belled ag y mae dysgu darllen yn bod. Yr hyn y mae’r testun yn ei ddweud sy’n bwysig, a phroses ymenyddol yw’r broses sy ‘n ymwneud a’r testun. Proses sy’n ymwneud a’r cyfan ydyw; y frawddeg gyfan, y paragraff cyfan, nid y darnau. Ond y mae’r mecanyddol yn ymwneud â’r print a dyma lle y ceir y broses seinngol o adnabod gair. Os yw’r wybodaeth y daw’r darllenydd a hi at ddarllen yn ddigonol i ddarllen a deall, yna nid oes angen canolbwyntio ar y broses fecanyddol, ar y seinegol, a’r cyfan a wna pwyslais felly yw arafu’r darllen.

Ar y llaw arall, ar gyfnodau penodol yn natblygiad pob darllenwr y mae angen canolbwyntio ar y gair ac yn achlysurol ar y llythrennau, ond o’r cyfan at y rhannau nid fel arall y mae dilyn y broses hon.

Y mae gofyn i bawb sy’n ymwneud a darllen plant felly wybod yn union beth yw darllen, oherwydd y gred o beth yw darllen fydd yn dylanwadu ar sut y datblygir darllen plant a sut y mesurir y datblygiad hwnnw.

Pam y mae darllen yn bwysig

Y mae rheini a gwleidyddion ac athrawon yn poeni mwy am ddarllen plant nag am ddim arall. Daeth rhieni dros y blynyddoedd i roi pwys mawr ar allu eu plant i ddarllen, nid yn unig nac yn gymaint oherwydd ei fod yn allwedd i fydoedd cyffrous a chyfoethog a bod iddo ei bwrpasau ymarferol, ond oherwydd ddarllen gael ei ddefnyddio fel mesurydd gallu, fel clorian i asesu plentyn a’i gyraeddiadau. Darllen sy’n arddangos llwyddiant neu fethiant addysgol.

Ai dyma’r rheswm hefyd pam y mae gwleidyddion yn poeni? Os am fesur gallu plentyn, prawf darllen amdani, os oes gan blant anghenion arbennig, y rhan amlaf maent yn ymwneud a darllen, a’r feddygianiaeth yw sylw arbenig i ddarllen.

Y mae athrawon yn poeni am ddarllen plant am yr un rhesymau, ac am fod yna gymaint o bwysau oddi wrth rieni ac oddi wrth wleidyddion. Ac y mae yna le i boeni. Y mae darllen yn fesurydd hwylus, yn fesurydd sy’n gallu arddangos llwyddiant neu fethiant yn aml, ac yn amlach na pheidio y mae ysgol yn cael ei barnu ar ei gallu i ddysgu darllen i blant. Ychwanegodd y cwricwlwm "cenedlaethol" at y pwysau hwn.

Ond y mae yna resymau mwy sylfaenol am bwysigrwydd darllen, ac y mae’n rhaid i ysgolion seilio eu gweithgarwch ar yr amrywiaeth o resymau hyn, ar ystod llawer ehangach o resymau na’r rhai a grybwyllwyd hyd yma.

(i) Y mae’r gallu i ddarllen yn rhan annatod o wead datblygiad iaith, sy’n wrando a siarad ac ysgrifennu yn ogystal ag yn ddarllen, ac y mae datblygiad ieithyddol yn rhan annatod o ddatblygiad y bersonoliaeth gyfan.

(ii) Y mae byd llyfrau yn fyd cyfoethog, ac y mae’r cyfoeth hwn ar gael i bob oed. Y mae anallu i ddarllen yn amddifadu plentyn o ddimensiwn cwbl angenrheidiol yn ei ddatblygiad. Y mae darllen straeon yn rhan greiddiol o ddatblygiad y plentyn unigol. Elfen gwbl hanfodol yn y datblygiad hwnnw yw’r ddeialog a geir rhwng awdur a darllenydd, ac oni bai fod y plentyn yn gallu darllen yn rhugl, ni cheir y ddeialog hon.

(iii) Y mae angen y gallu i ddarllen am fod y gair printiedig yn eifen holl bresennol yn em byd, boed yn label ar fwyd, yn gyfarwyddyd ar botel ffisig, yn arwydd ffordd. Y mae’r rheswm ymarferol dros ddysgu darllen yn un cwbl sylfaenol a’r angen am y gallu hwn mewn dwy iaith yn ganolog i addysg yng Ngwynedd.

(iv) Y mae y gyfundrefn addysg wedi ei sylfaenu ar y gallu i ddarllen ac ar y llyfr, ac er bod y byd yn newid y mae’r ffaith hon yn parhau. Y mae anallu i ddarllen yn tanseilio holl addysg y plentyn a daw hyn yn gynyddol wir fel y mae’r plentyn yn dringo grisiau addysg.

(v) Y mae meddylwyr a darganfyddwyr pob oes wedi croniclo a chyflwyno’r darganfyddiadau a wnaethant drwy’r gair printiedig. Y mae’r gaflu i ddarllen yn allwedd i’r holl wybodaeth hon ac i bob gwybodaeth arall.

Y mae i dderbyn y rhesymau hyn am bwysigrwydd darllen oblygiadau mewn dulliau dysgu, agweddau at ddarllen, a holl ymwneud athrawon â phlant a’r gair printiedig yn yr ysgol. Y mae’r pwyslais, nid yn unig ar sicrhau bod plant yn galu darllen, ond ar yr hyn a ddarllenant, ar hybu agweddau cadarnhaol at lyfrau, ar fod yn feirniadol ac ar feithrin chwaeth o’r cychwyn cyntaf.

_____________________________________________________
Creu Hinsawdd
i Hybu Darllen                                                         

Yma fe geir nifer o awgrymiadau ymarferol ar sut y gall ysgol ddangos i blant, ymhob agwedd ar ei gweithgaredd, bod darllen ac ysgrifennu yn ganolog ac yn bwysig.

Unwaith eto mae yma bwyslais ar rannu gweithgaredd, fel bod plant ac athrawon yn dod i weld eu hysgol fel cymuned sy’n rhoi bri ar lythrennedd.

TAPIAU GWRANDO

  1. Darllen rhan gyntaf llyfr ar dâp. (ar ddiwedd gwasanaeth boreol, ar ddiwedd sesiwn y bore etc. - ond gan gofio bod angen holi’r plant sy’n ymateb a’u hannog i rannu eu hargraffiadau gydag eraill). ‘I wybod beth ddigwyddodd rhaid i chi ddarllen ymlaen’
  2. Annog plant i chwilio am ddarnau diddorol mewn llyfrau ac yna eu hannog i recordio’r darnau hyn ar gaset fel y gall plant eraill rannu eu mwynhad.
  3. Prynu tapiau gwrando sy’n cynnwys storiau estynedig. Chwarae rhannau i’r dosbarth cyfan ar beiriant caset mawr i ‘godi blys’ ac yna caniatau unigolion/grwp wrando ar y gweddill.
  4. Rhoi cerddi ar dâp - cerddi o bob math - er mwyn creu ‘Blodeugerdd Ddosbarth ar dap’ fydd ar gael i’r plant i gyd.

(COFIWCH BOD CHWARAEWYR TAP PERSONOL (WALKMAN) YN FWY HWYLUS (AC YN FWY PERSONOL!) NA CHANOLFANNAU GWRANDO. A DOES DIM ANGEN SOCED TRYDAN!)

* * * *

LLYFRAU AR GYFER DYDDIAU ARBENNIG

5. Cofio am ddathliadau pwysig y mae modd eu cysylltu â llyfrau

e.e. dyddiau geni awduron dyddiadau digwyddiadau o bwys etc.

6. Gwahodd plentyn sy’n cael ei benblwydd i ddathlu trwy ddarllen darn o’i hoff lyfr i’r dosbarth/ysgol ar ei ddiwrnod ‘arbennig’.

7. Trefnu diwmod/wythnos arbennig sy’n gysylltiedig a llyfr. Cael plentyn/plant i wisgo yn yr un dull a’r cymeriadau a gwneud achlysur arbennig ohono.

8. Trefnu un diwrnod arbennig ymhob mis a’i ddathlu gyda math

arbennig o lyfr:

IONAWR - LLYFRAU DINOSORIAID

CHWEFROR - LLYFRAU LLONGAU etc.

 

ARDDANGOSFEYDD

9. Trefnu arddangosfeydd arbennig o bryd i’w gilydd

e.e. llyfrau i’w darllen yn y gwely

llyfrau i’w darllen ar wyliau

llyfrau i’n dychryn ni (i blant dewr yn unig!)

llyfrau am hedfan etc.

10. Coeden lyfrau - gwneud coeden fawr (yn neuadd yr ysgol) lle gall y plant osod deilen ar frigyn bob tro y maen nhw’n darllen llyfr - pob deilen i nodi enw’r llyfr, enw’r plentyn, enw’r awdur, enw’r arlunydd, enw’r cyhoeddwr etc.

11. Coeden lyfrau - gosod cangen (fawr) go-iawn yn neuadd yr ysgol. Clymu’r ‘dail’ ar y canghennau. Gallai’r dail fod ar ffurf llyfr. Gwneud y ‘deilio’ yn destun trafod cyson gyda’r plant.

12. Oriel cymeriadau o lyfrau - darn arbennig o ddosbarth/rhodfa lle gall y plant osod lluniau a/neu ddisgrifiadau ysgrifenedig o gymeriadau y maen nhw wedi eu cyfarfod mewn llyfrau.

13. Creu sioe bypedau - plant i gyflwyno rhan/nau o lyfr trwy gyfrwng pypedau. Y plant i lunio’r pypedau, creu’r theatr, ysgrifennu’r sgript etc.

14. Y plant i greu mobiliau yn seiliedig ar lyfr sy’n cael ei ddarllen iddyn nhw -rhoi lle amlwg i gymeriadau o’r Ilyfr.

15. Llyfr-bryfed - Cael y plant i wneud llyfr-farc ar ffurf pryfed o wahanol fathau i ddangos eu bod nhw’n ddarllenwyr. Arddangos y pryfed!

 

HUDO’R PLANT

16. Llunio poster -

Llyfrau y mae’n

RHAID i chi eu darllen

Plant i gael rhestru enwau llyfrau sy’n haeddu’r fath glod.

17. Creu cornel arddangos bwrpasol sy’n cyfuno llyfrau a modelau/arteffactau ar yr un testun:

e.e. casgliad o lyfrau am glociau + enghreifftiau o wahanol glociau
casgliad o lyfrau am awyrennau + enghreifftiau o luniau/ modelau o awyrennau etc.

18. Creu casgilad o gardiau indecs, a’u gosod mewn bocs.

e.e. bocs llyfrau môr-ladron
bocs llyfrau ceffylau

Plant i ysgrifennu sylwadau ar y cardiau am lyfrau a ddarllenwyd.

19. Awdur yr wythnos. Siarad gyda’r plant am ychydig funudau am awdur sydd a’i lyfrau yn yr ysgol. Darllen darnau o’i waith.

Fedr plant ddod i adnabod arddull rhai awduron dim ond trwy glywed eu gwaith yn cael ei ddarllen iddynt?

20. Cornel ar fwrdd arddangos –

FEDRWCH CHI DDARLLEN HWN!

Y plant i chwilio am wybodaeth/ffeithiau etc o lyfrau sy’n anodd i’w darllen.