Trafod Testun - Gweithgareddau ieithyddol ar gyfer B3/ 4     Yn ôl..
- seiliedig ar ffuglen cyfoes.              

Mae'r adnoddau hyn yn ffrwyth llafur gweithgor bychan o athrawon o Wynedd a Môn a ddaeth ynghyd am dridiau o weithgarwch creadigol, pob un a'i ddewis nofel a'i bwrlwm syniadau. Wedir'r creu a'r cydweithio fe aethant ati i dreialu'r deunyddiau yn yr ysgolion. Dymunwn ddiolch iddynt am eu brwdfrydedd a'u diddordeb.

Anelwyd y pecynnau yn benodol ar gyfer plant B3 a 4 ein hysgolion a'r bwriad oedd creu deunyddiau heriol a symbylus a fyddai yn gymorth i feithrin medrau Llythrennedd plant yr haenau canol ac uwch. Mae'n eithaf posib y bydd athrawon yn gweld defnydd iddynt gyda rhai plant hyn, hefyd.

Dymunwn gydnabod y caniatâd parod a roddwyd inni gan weisg Gomer, Gwynedd a'r Dref Wen i ddefnyddio llyfrau a gyhoeddwyd ganddynt yn y modd hwn.

Aelodau'r Gweithgor:

Anwen Roberts, Ysgol Bro Lleu, Penygroes
Anwen Davies, Ysgol Gynradd Niwbwrch
Eirian Jones, Ysgol Cae Top, Bangor
Catrin Roberts, Ysgol Gynradd Dolgellau
Nesta Griffith, Ysgol y Borth, Porthaethwy
Eirian Owen, Ysgol Dolbadarn, Llanberis
Len Jones, Athro Ymgynghorol y Gymraeg