Fframwaith Cynllun Gwaith Iaith
             
Adnoddau
______________________________________ Yn ôl..

Bydd datblygiad ieithyddol y plant yn cael ei gefnogi gan y ddarpariaeth adonddau sydd gennym yn yr ysgol.

Nid cael yr adnoddau sy'n bwysig, ond sylweddoli beth yw eu gwerth yn y broses addysgol a sicrhau y gwnawn ddefnydd doeth ohonyn nhw.

LLYFRAU

*byddant yn ddeniadol, yn gyfoes ac yn amrywiol

* byddant yn cael eu parchu a'u harddangos yn chwaethus

* bydd y plant yn cael eu dysgu i'w trin a'u trafod a'u mwynhau

* fe newidir rhan o unrhyw arddangosfa yn gyson


TAPIAU GWRANDO

*byddant yn atgyfnerthu ac yn cefnogi'r llyfr

*byddant 'ar gael' i'r plant fynd atynt yn rheolaidd

*bydd y plant yn cael eu dysgu i ofalu amdanynt

*mae mwy o ddeunydd masnachol ar gael yn y Saesneg

*byddwn yn barod i baratoi deunyddiau Cymraeg ein hunain


LLYFRGELL GANOLOG

*bydd trefn ar y dosbarth a'r plant yn cael eu dysgu i ddefnyddio'r ystafell yn ddoeth

*yn ogystal â'r ddarpariaeth lyfrau bydd yn fuddiol cael pethau printiedig eraill - cylchgronau, papur newydd, mapiau ...


TELEDU A RADIO

*byddwn bob amser yn recordio rhaglenni pwrpasol. Bydd hyn yn fanteisiol mewn sawl ffordd:

(i) rhydd gyfle i ni eu defnyddio ar adeg sy'n gyfleus i ni

(ii) wylio/wrando ar y rhaglen ymlaen llaw (i baratoi)

(iii) defnyddio pytiau ar y tro er mwyn hwyluso:

*gwrandawiad y plant; sicrhau eu bod yn dilyn

*cymryd nodiadau (wrth ail-chwarae rhannu a.y.b.)

*bydd gennym lyfrgell ddatblygol o dapiau


Y CYFRIFIADUR

*bydd y rhaglenni prosesu geiriau (e.e. Pennod+, Ysgrifwr, Phrases) yn cael ei ddefnyddio i brosesu geiriau yn hytrach nag i wneud copi taclus o waith mewn llawysgrifen

*gall rhaglen fel Fy Myd, a rhaglenni antur fel Gardd Nain gefnogi darllen

*bydd rhaglenni eraill (e.e. Peth Data, Dawn Data, Cangen) yn cael eu defnyddio i hybu gwaith trafod


LLYFRAU CYFEIRIOL AR GYFER YR ATHRAWON

*bydd casgliad o adnoddau cyfeiriol sy'n cynnig awgrymiadau/canllawiau ar gael ar gyfer athrawon e.e. dogfennau diweddaraf y Cwricwlwm Cenedlaethol, llawlyfrau ar agweddau fel "Sillafu", "Datblygu Darllen", "Rhieni a Darllen" - pamffledi a ystyrir yn fuddiol a pherthnasol. Wele rai ohonynt:

Dogfennau CCC/ACAC

Y Gymraeg yn y Cwricwlwm Cenedlaethol, 1990
Y Saesneg yn y Cwricwlwm Cenedlaethol, 1990
Canllawiau Anstatudol - yn y Gymraeg a'r Saesneg, 1990
Y Cwricwlwm Cenedlaethol yng Nghyfnodau 1 a 2, 1994
Literature-Centred Approache Book 1, Book 2, 1991
Poetry in the Primary School, 1993
Iaith Trafod Iaith, 1993
Astudiaethau Hyfforddiant Mewn Swydd (Ffeil Goch), 1991


Adroddiadau AEM

Poetry in English in the Primary School 1990
Addysgu a Dysgu Llenyddiaeth Gymraeg mewn Ysgolion Cynradd yng Nhgymru 1992
Aspects of Reading in English in the Junior School 1989


Dogfennau'r Awdurdod Addysg


Meini Prawf Addysg Gynradd 1993
HMS Ysgol Ganolog, Y Gymraeg yn yr Ysgol Gynradd (Ffeil Wen) 1989
Llawlyfr Llafaredd 1994
Meithrin Llythrennedd mewn Ysgolion Cynradd 1994


Rhai Llyfrau o Weisg Eraill

The Emergence of Literacy, Nigel Hall, (Hodder and Stoughton, 1987)
Listening to Children Reading, Helen Arnold, (Hodder and Stoughton, 1982)
Young Fluent Readers, M. Clark, (Heinemann, 1976)
Listening to Read, M. Meek, (The Bodley Head, 1981)
Writing and the Writer, F. Smith, (Heinemann, 1982)
Read with Me, L. Waterland, (Thimble Press, 1985)
What's Whole in Whole Language? K. Goodman, (Heinemann, 1986)