Fframwaith Cynllun Gwaith Iaith
    
BARDDONIAETH
______________________________________ Yn ôl..

Amcanion

Gofalwn y bydd yn y cwricwlwm iaith le digonol i farddoniaeth. Mae digon o resymau dros gynnwys yr elfen hon a rhoi statws priodol iddi:

(a) mae'n ffordd o godi ymwybyddiaeth y plant o ddull gwahanol o ysgrifennu, o drin geiriau, lle mae cynildeb, sylwgarwch a chyfosod bwriadus yn bwysig

(b) mae'n ffordd o gael plant i fwynhau swn a sain geiriau, eu swn a'r apêl mewn mynegiant sy'n dibynnu ar rhythm, mydr ac odl

(c) mae'n fodd i gyflwyno plant beth o'u treftadaeth diwylliannol yn hwiangerddi, ac englynion

(ch) mae dysgu ambell ddarn yn miniogi'r cof.

 

Deunydd

Ymgeisiwn i gyflwyno deunydd sy'n amrywiol ei arddull ac sy'n cynrychioli'r trafoddiadol a'r cyfoes. Yn aml fe wnawn ddefnydd o gerddi sy'n cyfoethogi ein gwaith thematig, dro arall fe ddefnyddiwn gerddi fel man-cychwyn i'r thema. Ond yn anad dim ceisiwn gyflwyno cerddi am eu bod yn werth eu cyflwyno, ac nid oherwydd eu bod yn "digwydd" bod yn cyd-fynd â'r thema. Felly byddwn yn neilltuo cyfnodau i ddarllen a gwerthfawrogi barddoniaeth.

Gall defnydd plant Cyfnod Allweddol 1 fod yn bennaf ar ffurfiau mydr-ac-odl, yn hwiangerddi, yn rhigymau ac yn gerddi doniol. Dyma'r cyfnod pan fydd apêl yr odl yn holl bwysig iddynt, a sigl a rhythm y penillion yn ganllaw i'r glust.

Cyflwynir mwy o amrywiaeth yn ystod blynyddoedd cyntaf Cyfnod Allweddol 2 - gallant ddod yn gyfarwydd â ffurfiau fel Hen benillion, Haiku, Tribannau. Mae'n bwysig yn y cyfnod hwn iddynt ymwneud â deunydd sy'n dibynnu ar elfennau fel trosiad, cymhariaeth a delwedd, ac hefyd ddeunydd di-odl. Yn y modd hwn deuant i sylweddoli mai ffordd bardd o ddisgrifio'n synhwyrus, o drin geiriau yn 'wahanol' sy'n gwneud barddoniaeth, ac nad yw odl ynddi ei hun yn cyflawni hynny.

Erbyn diwedd Cyfnod Allweddol 2 fe fyddwn wedi bachu ar gyfleoedd i ddysgu rhai englynion iddynt, yn ogystal ag ambell gwpled neu ran o gywydd/awdl. Trwy hyn fe ddeuant i werthfawrogi'r elfen o gynghanedd sy'n nodweddu peth o'n diwylliant fel Cymry. Wrth gwrs, mae'r gynghanedd, hefyd, yn gwneud 'dysgu-ar-y-cof' yn haws. Nid yw pob englyn (na nifer o gywyddau) yn addas i blant, ond mae yna rai sy'n gwbl addas o'u cyflwyno'n ofalus (Nid deall pob gair ar y darlleniad cyntaf sy'n bwysig).

Bydd y deunydd, felly, yn cynnwys y traddodiadol, a'r cyfoes. Erbyn heddiw rhaid cydnabod camp y beirdd cyfoes, rhai ohonyn nhw'n ysgrifennu'n benodol ar gyfer plant e.e. John Hywyn, Emrys Roberts, Emyr Hywel, T. Llew Jones.

Yr un modd yn y Saesneg - fe fyddwn yn cyfoethogi'r ddarpariaeth addysgol os y rhown le i rai fel Michael Rosen a Kit Wright yn ogystal â Rossetti a Reeves, Gareth Owen, Grace Nicholls a Morag Styles.

Cofiwn, hefyd, am y filltir sgwâr - dylai plant yr ysgol hon wybod pwy yw'r beirdd lleol, os oes rhai, ac os ydyn nhw'n gyfoes (ac yn fyw) gellir eu gwahodd i sgwrsio efo'r dosbarth, ac i greu hefo'r plant.

______________________________________

Ysgrifennu Barddoniaeth

Yn yr ysgol hon byddwn yn cychwyn ysgrifennu barddoniaeth yn y dosbarth ieuengaf un, sef drwy chwarae hefo geiriau, gwneud rhestrau ar y cyd, a chyflythrennu. byddwn yn annog plant i chwilio am eiriau sy'n odli hefyd, er na fyddwn yn gofyn iddynt lunio cerddi odledig nes byddant yn yr adran iau - onibai bod ganddynt dalent arbennig.

Ar y cyd hefo'r athrawes/athro bydd y plant yn cychwyn ysgrifennu barddoniaeth, gan bledu syniadau. Bydd bron i bob cynnig yn cael ei daro i lawr cyn i'r gerdd gael ei chabloli a'i saernïo o flaen eu llygaid. Rhydd hyn gyfle i'r plant weld sut i drafod ac i ail-feddwl, i greu ystyron gwahanol drwy symud neu newid geiriau, a sut i fod yn gynnil. Byddant yn rhan o'r broses o'r cychwyn i'r diwedd, a rhydd hyn hyder iddynt i lunio cerddi mewn grwpiau llai, ac fel unigolion, maes o law.

Byddwn yn sicrhau bod digonedd o bapur ac offer ysgrifennu wrth law'r plant, ac fe'u hannogir i gadw pob gair rhag ofn y byddant yn taflu perlau defnyddiol i ffwrdd. Ceisiwn sicrhau elfen o ddistawrwydd i'r beirdd ieuanc hefyd, a byddwn yn caniatau llanast yn y drafftiau cyntaf. Perchir eu hymdrechion, a cheisir eu cynorthwyo i gyfansoddi mewn modd sensitif iawn. Rydym yn ymwybodol iawn o'r perygl o roi gormod o "gymorth" i blant, a hyderwn ein bod yn cadw mewn cof mai gwaith y plant ddylai cerdd fod, ac nid ein syniad ni o beth fyddai'n swnio'n dda. Wedi dweud hynny, bydd adegau pan fydd angen i ni gynnig syniadau i sbarduno meddwl rhai plant, ond ni chânt ddefnyddio ein geiriau ni yn union.

Bydd y plant yn ysgrifennu cerddi amrywiol yn ystod eu cyfnod yn yr ysgol, o gerddi sydd heb fod ar fesur arbennig ac efallai yn ddi-odl, i gerddi sydd ar ffurfiau mwy penodol megis triban, pennill telyn ac efallai soned. Ceisiwn adeiladu ar eu profiadau ysgrifennu barddoniaeth wrth iddynt fynd drwy'r ysgol.

Disgwyliwn y byddnag yn gallu cyfansoddi Haiku e.e. erbyn diwedd blwyddyn 4 ac yn gallu cyfansoddi cerddi amrywiol drwy ddefnyddio strwythur fel canllaw. Bydd eu medusrwydd o drin geiriau, cymariaethau a throsiadau yn cynyddu, a disgwyliwn i'w meistrolaeth o ffurfiau ddatblygu hefyd. Erbyn 11 oed hyderwn y byddant wedi cael profiad o lawer o ffurfiau ac yn gallu dewis eu ffurf eu hunain; un fydd yn gweddu i'r gerdd yr hoffent ei chreu.

Defnyddiwn gyfannu er mwyn i'r plant ddarganfod ystyr cerdd i'r eithaf gan y bydd chwilio am eiriau addas yn lle'r geiriau coll yn gwneud i'r plant feddwl am ystyr pob gair, ac yn codi eu hymwybyddiaeth o ddewisiadau'r bardd.

Yn yr un modd bydd jig-so barddoniaeth - o hwiangerddi yn y babanod i gerddi di-odl yn y dosbarthiadau hynaf - yn gymorth i'r plant ddod ychydig yn nes i ddeall techneg bardd ac i feddwl am y ffurf wrth ail-lunio cerdd.

Bydd y plant yn darllen barddoniaeth fel rhan naturiol o'u rhaglen ddarllen drwy'r ysgol. Fe'u hanogir i wneud casgliad personol o'u hoff farddoniaeth i'w gadw trwy gydol eu hamser yn yr ysgol, a cheisiwn sicrhau bod bardd yn cael gwahoddiad i weithio hefo'r plant o leiaf unwaith yn ystod eu gyrfa yn yr ysgol.

 

Byddwn yn annog y plant i lunio rhestr o "reolau" ar gyfer ysgrifennu barddoniaeth, fel eu bod yn rhydd i feddwl am y creu yn hytrach na'r manion e.e. gan geisio:

* sicrhau distawrwydd pan fyddant yn cyfansoddi

* bod yn wreiddiol, ac nid yn dwyn syniadau pobl eraill

* sicrhau bod ganddynt ddigon o bapur - a dim yn defnyddio chwalwr na phren mesur gan fod blerwch yn dderbyniol ar y dechrau

* cadw'r drafftiau cyntaf rhag ofn y byddant eu hangen eto

 

Wrth gyfansoddi byddwn yn annog y plant i gadw rhai pethau mewn cof e.e.

* cychwyn llinellau newydd os ydynt yn seibio wrth ddarllen eu gwaith yn uchel

* rhoi unrhyw syniadau a ddaw i'w pennau i lawr ar bapur neu mewn llyfryn bach; yn barod i'w ddefnyddio rhywbryd eto

* peidio â bod ofn defnyddio geiriadur neu thesawrws os ydynt yn cael trafferth dod o hyd i'r gair "iawn" ar gyfer eu gwaith

* bod yn barod i drafod eu gwaith gyda'i gilydd

Ar ôl cyfansoddi, ail-ddrafftio cyson a chaboli, byddwn yn annog y plant i "berfformio'u" gwaith i'w gilydd, a byddwn yn rhoi cyfle iddynt ei "gyhoeddi" un ai yn gelfyddydol (e.e. mewn llawysgrifen gain) neu ar y cyfrifiadru. Cânt addurno eu cerddi os dymunant a chadw casgliad o waith plant ar gyfer llyfrgell y dosbarth.

 

Rhai enghreifftiau o lyfrau defnyddiol ar gyfer creu barddoniaeth hefo plant

Poetry 0-16 (un ymhob dalgylch ers 1992 - bocs llyfrau CA2)
There's a Poet Behind You (un ymhob dalgylch ers 1992 - bocs llyfrau CA2)
Morag Styles and Helen Cook: HODDER & STOUGHTON
Does it Have to Rhyme? Sandy Brownjohn: HODDER AND STAUGHTON
What Rhymes with Secret? Sandy Brownjohn: HODDER AND STAUGHTON
I See a Voice - Michael Rosen: HUTCHINSON